Amaethyddiaeth, Coedwigaeth a Bwyd Brexit Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Economi Gofal Cymdeithasol Trafnidiaeth Y Môr a Physgodfeydd

Beth mae Cytundeb Ymadael yr UE yn ei olygu i Gymru?

Ar 4 Rhagfyr, bydd y Cynulliad yn trafod drafft Cytundeb Ymadael yr UE (y cytundeb ymadael) a'r Datganiad Gwleidyddol. Mae hyn yn cyd-fynd â bwriad y Prif Weinidog y bydd y Cynulliad yn cynnal pleidlais ar y cytundeb a'r Datganiad Gwleidyddol cyn y 'bleidlais ystyrlon' ar y cytundeb yn Nhŷ'r Cyffredin, sydd wedi'i threfnu ar gyfer 11 Rhagfyr yn dilyn dadl bum diwrnod. Mae angen y 'bleidlais ystyrlon' er mwyn cadarnhau'r Cytundeb Ymadael, o ganlyniad i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar y materion allweddol i Gymru sy'n codi yn y Cytundeb Ymadael. Byddwn yn cyhoeddi blogiau pellach ar themâu sy'n deillio o'r Datganiad Gwleidyddol, ac ar effeithiau economaidd posibl y Cytundeb Ymadael, felly cadwch lygad am y rhain cyn y ddadl.

30 Tachwedd 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 4 Rhagfyr, bydd y Cynulliad yn trafod drafft Cytundeb Ymadael yr UE (y cytundeb ymadael) a’r Datganiad Gwleidyddol.  Mae hyn yn cyd-fynd â bwriad y Prif Weinidog y bydd y Cynulliad yn cynnal pleidlais ar y cytundeb a’r Datganiad Gwleidyddol cyn y ‘bleidlais ystyrlon’ ar y cytundeb yn Nhŷ’r Cyffredin, sydd wedi’i threfnu ar gyfer 11 Rhagfyr yn dilyn dadl bum diwrnod.  Mae angen y ‘bleidlais ystyrlon’ er mwyn cadarnhau’r Cytundeb Ymadael, o ganlyniad i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

Mae’r erthygl hon yn canolbwyntio ar y materion allweddol i Gymru sy’n codi yn y Cytundeb Ymadael.  Byddwn yn cyhoeddi blogiau pellach ar themâu sy’n deillio o’r Datganiad Gwleidyddol, ac ar effeithiau economaidd posibl y Cytundeb Ymadael, felly cadwch lygad am y rhain cyn y ddadl.

Beth yw’r Cytundeb Ymadael, a beth yw’r prif negeseuon a ddaw ohono?

Mae’r Cytundeb Ymadael yn nodi telerau ymadawiad y DU â’r UE ar 29 Mawrth 2019.  Fe’i cytunwyd o dan delerau Erthygl 50 o’r Cytuniad ar yr Undeb Ewropeaidd, a sbardunwyd gan y Prif Weinidog drwy ysgrifennu at Lywydd y Cyngor Ewropeaidd ar 29 Mawrth 2017 i roi gwybod iddo am fwriad y DU i ymadael â’r UE.  I grynhoi, mae’r Cytundeb Ymadael yn cynnwys y darpariaethau allweddol a ganlyn:

  • Cytundeb ynghylch hawliau dinasyddion sy’n caniatáu i ddinasyddion yr UE fyw yn gyfreithlon yn y DU ac i dinasyddion y DU sy’n byw yn un o wledydd yr UE yn gyfreithlon ar ddiwedd y cyfnod pontio i barhau i wneud hynny’n barhaol ar ôl cyfnod o bum mlynedd.
  • Darpariaethau gwahanu sy’n gwneud trefniadau ar gyfer ymadawiad y DU â’r UE mewn meysydd fel nwyddau sydd ar y farchnad ar ddiwedd y cyfnod pontio, gweithdrefnau tollau, eiddo deallusol gan gynnwys dangosyddion daearyddol ar gyfer bwydydd, a chydweithrediad rhwng heddluoedd a systemau barnwrol.
  • Creu cyfnod pontio hyd at 31 Rhagfyr 2020 lle bydd y DU yn dilyn cyfraith yr UE oni nodir yn wahanol yn y cytundeb ymadael, ac yn dilyn ‘pedwar rhyddid’ yr UE sy’n rhoi rhyddid symud i nwyddau, gwasanaethau, pobl a chyfalaf. Fodd bynnag, ni fydd y DU yn cyfrannu at benderfyniadau y mae’r UE yn eu gwneud. Gall yr UE a’r DU gytuno i ymestyn y cyfnod pontio am flwyddyn neu ddwy flynedd, ond dim ond os bydd y DU yn gofyn am hyn cyn 1 Gorffennaf 2020.
  • Trefniadau ar gyfer setliad ariannol sy’n cynnwys hawliau a rhwymedigaethau’r DU fel aelod sy’n ymadael â’r UE. Mae Llywodraeth y DU yn credu y bydd yn rhaid iddi dalu rhwng £35 biliwn a £39 biliwn, ond mae’r amcangyfrif hwn yn dibynnu ar ddigwyddiadau yn y dyfodol.
  • Trefniadau sefydliadol sy’n nodi sut y bydd y cytundeb yn cael ei reoli, ei weithredu a’i orfodi, gan gynnwys mecanweithiau ar gyfer datrys anghydfodau.
  • Ateb wrth gefn ar gyfer Iwerddon a Gogledd Iwerddon, a ddaw i rym os na fydd cytundeb masnach rhwng y DU a’r UE erbyn 31 Rhagfyr 2020 (neu ddiwedd y cyfnod pontio, os caiff ei ymestyn).

Sut mae Llywodraeth Cymru yn credu y mae’r Cytundeb Ymadael yn mynd i’r afael â’r materion allweddol ynghylch Brexit y mae Cymru’n eu hwynebu?

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hasesiad o’r Cytundeb Ymadael a’r Datganiad Gwleidyddol mewn datganiad ysgrifenedig gan y Prif Weinidog ar 27 Tachwedd.  Roedd yn nodi barn Llywodraeth Cymru, er ei bod yn cydnabod pwysigrwydd sylfeini’r Cytundeb Ymadael, bod rhai elfennau ohono’n peri problemau.  Mae’n credu mai safbwynt Llywodraeth y DU, a sut y mae hyn wedi llywio’r datganiad gwleidyddol, sy’n achosi rhai o’r anawsterau hyn.

Mae’r pryderon penodol sydd gan Lywodraeth Cymru ynghylch y Cytundeb Ymadael i’w gweld yn yr asesiad, a hefyd gan y Prif Weinidog yn ei ddatganiad i’r Cynulliad ar 20 Tachwedd.  Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Diffyg sefydlogrwydd y trefniadau yn y Cytundeb Ymadael – dywedodd y Prif Weinidog “nad yw’r cytundeb yn mynd at wraidd y mater”, ac mae cwestiynau ynghylch a fydd y DU yn yr un sefyllfa ag y mae nawr yn 2020 heb gytundeb parhaol ynghylch ei pherthynas â’r UE.
  • Cyfyngiadau o ran ymestyn y cyfnod pontio – mae Llywodraeth Cymru yn nodi, er bod y Cytundeb Ymadael yn cynnwys mecanwaith i ymestyn y cyfnod pontio, na ddylai hyn fod yn berthnasol dim ond i amgylchiadau lle mae Llywodraeth y DU yn dymuno osgoi cychwyn yr ‘ateb wrth gefn’ sydd ym mhrotocol Iwerddon-Gogledd Iwerddon. Mae’n credu ei bod yn debygol y bydd angen amser ychwanegol ar gyfer trafodaethau mewn nifer o feysydd i sicrhau bod y cytundeb cywir yn cael ei lunio y tu hwnt i faterion sy’n effeithio ar fasnach, ac na ddylid cyfyngu ar yr amser sydd ar gael i ymestyn y cyfnod pontio.
  • Mesurau gwarchod yr amgylchedd a llafur – mae’r cytundeb ymadael yn ymrwymo, yn ystod cyfnod unrhyw ateb wrth gefn, na fydd y DU a’r UE yn gostwng lefelau mesurau gwarchod yr amgylchedd a llafur fel y maent yn sefyll ar ddiwedd y cyfnod pontio. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi dewis amgen, lle byddai’r DU yn parhau i alinio â safonau yr amgylchedd a llafur yr UE yn y dyfodol, er mwyn parhau â’r hyn y mae’n ei weld fel mesurau gwarchod lefel uchel ar gyfer yr amgylchedd a hawliau gweithwyr – mesurau sydd wedi bod ar waith yn ystod aelodaeth y DU o’r UE. Mae rhai sylwebyddion eraill, fel y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus a Chyfreithwyr Thompsons, hefyd wedi mynegi pryderon ynglŷn â gallu unigolion i orfodi’r ‘rhwymedigaethau atchweliad’, fel y rhai sydd yn y cymalau ateb wrth gefn, ar ôl Brexit.

Mae asesiad Llywodraeth Cymru yn dod i’r casgliad a ganlyn:

Dylai Llywodraeth y DU groesawu’r berthynas â’r UE yn y dyfodol a amlinellir yn Diogelu Dyfodol Cymru.  Drwy fabwysiadu’r agwedd hon, prin y byddai angen newid y Cytundeb Ymadael, nad yw’r UE yn awyddus iawn i’w aildrafod.

Pa effaith a gaiff y Cytundeb Ymadael ar feysydd polisi penodol yng Nghymru?

Cyhoeddodd Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad ei asesiad o effaith y Cytundeb Ymadael a’r Datganiad Gwleidyddol ar Gymru ar 29 Tachwedd.  Roedd hyn yn nodi’r pwyntiau allweddol a ganlyn mewn perthynas â’r cytundeb ymadael:

  • Mewn perthynas ag economi Cymru, bydd y DU yn parhau i fod yn rhan o’r farchnad sengl a’r undeb tollau yn ystod y cyfnod pontio, ond nid yw’r trefniadau o ran ardal masnach rydd ar gyfer nwyddau a chydweithrediad o ran masnachu gwasanaethau y tu hwnt i hyn wedi’u pennu o hyd ar ôl yr ‘ateb wrth gefn’ posibl. Mae’r mwyafrif helaeth o’r dystiolaeth a glywodd y Pwyllgor yn datgan bod sicrhau mynediad dirwystr at y farchnad sengl heb dariffau na rhwystrau di-dariff yn hanfodol bwysig i economi Cymru.
  • Mewn perthynas â phorthladdoedd Cymru, bydd diddordeb yn y trefniadau a nodir yn yr ‘ateb wrth gefn’ ar gyfer Iwerddon a Gogledd Iwerddon. Os daw hyn i rym, bydd tiriogaeth dollau yn y DU a’r UE, ond bydd Gogledd Iwerddon hefyd yn parhau i alinio â’r rhan fwyaf o reolau’r UE mewn perthynas â nwyddau ac anifeiliaid. O ganlyniad, ni fydd unrhyw wiriadau na rheolaethau newydd ar nwyddau sy’n croesi’r ffin rhwng Iwerddon a Gogledd Iwerddon, ond bydd gwiriadau ar nwyddau sy’n dod o weddill y DU i Ogledd Iwerddon.
  • Bydd cynhyrchion bwyd a diod o Gymru sy’n cael eu gwarchod gan ddangosyddion daearyddol, fel cig oen o Gymru, yn cael yr un warchodaeth yn awtomatig yn y DU ac yn cadw’r warchodaeth bresennol yn yr UE fel y nodir yn Erthygl 54 o’r Cytundeb Ymadael.
  • Hefyd, mae’r Pwyllgor wedi clywed pryderon am effaith Brexit ar waith cynllunio gweithlu GIG Cymru. Mae cynigion y Cytundeb Ymadael yn nodi y bydd holl ddinasyddion yr UE sy’n byw yn gyfreithlon yn y DU ar ddiwedd y cyfnod pontio yn gallu aros yn y DU, a bydd yr un hawliau yn fras ag sydd ganddynt ar hyn o bryd yn cael eu gwarantu, gan gynnwys yr hawl i weithio neu fod yn hunangyflogedig.
  • O ran meddyginiaethau’n parhau i fod ar gael ar gyfer GIG Cymru, bydd meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol sy’n cael eu rhoi ar y farchnad cyn 31 Rhagfyr 2020 yn parhau i gylchredeg yn rhydd rhwng y DU a’r UE ac ni fydd angen addasiadau i gynhyrchion nac ail-labelu. Bydd unrhyw weithgarwch cydymffurfio sydd eisoes yn digwydd ar y nwyddau hyn, fel asesiadau cydymffurfio, yn parhau i gael eu cydnabod yn y DU a’r UE fel ei gilydd.

Os ydych chi am gael clywed y diweddaraf ynghylch beth y mae’r Cynulliad yn ei wneud o ran Brexit, gallwch ddilyn y dudalen newydd Brexit yng Nghymru.


Erthygl gan Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru