Cyllid Gofal Cymdeithasol Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG

Sut y dylem dalu am ofal cymdeithasol yn y dyfodol?

Bu’r her o ddod o hyd i adnoddau ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol yn awr ac yn y dyfodol yn destun pryder i lywodraethau ar draws y DU ers sawl blwyddyn. Mae cyfres o ymchwiliadau, comisiynau ac adroddiadau wedi cynnig modelau eraill ar gyfer cyllido gofal cymdeithasol, a chodi amdano, ond mae’r opsiynau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru wedi ehangu’n ddiweddar yn sgîl datganoli pwerau codi trethi newydd i Gymru. Mae’r drafodaeth bresennol yng Nghymru yn canolbwyntio ar adroddiad annibynnol Holtham, sef Talu am Ofal Cymdeithasol (PDF, 974KB), sy’n cynnig cynnydd mewn trethi neu godi ardoll i gefnogi gofal cymdeithasol. Bydd y Cynulliad yn trafod yr adroddiad ar 8 Ionawr 2019.

07 Ionawr 2019

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Pam mae cyllido gofal cymdeithasol i oedolion yn broblem?

Bu’r her o ddod o hyd i adnoddau ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol yn awr ac yn y dyfodol yn destun pryder i lywodraethau ar draws y DU ers sawl blwyddyn. Mae cyfres o ymchwiliadau, comisiynau ac adroddiadau wedi cynnig modelau eraill ar gyfer cyllido gofal cymdeithasol, a chodi amdano, ond mae’r opsiynau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru wedi ehangu’n ddiweddar yn sgîl datganoli pwerau codi trethi newydd i Gymru.

Mae’r drafodaeth bresennol yng Nghymru yn canolbwyntio ar adroddiad annibynnol Holtham, sef Talu am Ofal Cymdeithasol (PDF, 974KB), sy’n cynnig cynnydd mewn trethi neu godi ardoll i gefnogi gofal cymdeithasol. Bydd y Cynulliad yn trafod yr adroddiad ar 8 Ionawr 2019.

Mae cynnal system gofal gynaliadwy yn heriol o gofio poblogaeth Cymru sy’n heneiddio a nifer gynyddol y bobl ag anghenion gofal a chymorth sy’n deillio o gyflyrau iechyd corfforol a meddyliol. Roedd adroddiad gan y Sefydliad Iechyd yn 2006, The Path to Sustainability, Funding Projections for the NHS in Wales to 2019/20 and 2030/31 (PDF 1.07MB) (Saesneg yn unig) yn nodi, ar gyfer cyllido’n llawn y pwysau o ran gofal cymdeithasol oedolion yng Nghymru, y byddai angen £1.0 biliwn ychwanegol erbyn 2030/31, gyda chostau yn cynyddi o £1.3 biliwn yn 2015/16 i £2.3 biliwn yn 2030/31.

Mae dod o hyd i ateb i’r her ariannol hon yn fater o bwys. Ar ddiwedd 2017, cytunodd Pwyllgor Cyllid y Cynulliad i gynnal ymchwiliad i gost gofalu am boblogaeth sy’n heneiddio, a oedd yn cynnwys ystyried sut y gallai Llywodraeth Cymru ddiwygio’r trefniadau ar gyfer ariannu gofal cymdeithasol.

A yw treth neu ardoll gofal cymdeithasol yn ateb ar gyfer Cymru?

Ym mis Hydref 2017, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar y pryd bedair treth newydd y byddai Llywodraeth Cymru yn eu hystyried, gan ddefnyddio ei phwerau newydd i gyflwyno trethi newydd penodol, a ddarperir o dan Ddeddf Cymru 2014. Roedd y rhain yn cynnwys ardoll gofal cymdeithasol a gynigiwyd mewn papur gan yr Athro Gerald Holtham a Tegid Roberts ar gyfer y Sefydliad Materion Cymreig, sef Solving Social Care. And more besides (Saesneg yn unig).

Yn ei adroddiad annibynnol dilynol, sef Talu am Ofal Cymdeithasol (PDF, 974KB), a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, mae’r Athro Holtham yn nodi’r achos economaidd o blaid system dreth neu ardoll gyfrannol o’r fath. Fel rhan o’r cynnig, byddai unigolion yn cyfrannu cyfran o’u hincwm i gronfa gofal cymdeithasol, yn amrywio o 1% i 3%, yn dibynnu ar oedran.

Gellid defnyddio peth o’r incwm a godir i gefnogi pwysau ar ofal cymdeithasol ar hyn o bryd, a châi’r gweddill ei fuddsoddi mewn cronfa i ddiwallu anghenion yn y dyfodol.

Er bod angen rhagor o waith yn hyn o beth, mae’r Athro Holtham yn dod i’r casgliad y gallai cynnydd treth neu godi ardoll ddarparu ateb ar gyfer Cymru.  Mae’n nodi bod y bwriad yn ddibynnol ar sicrhau enillion digonol o fuddsoddiadau, ar drafod costau casglu rhesymol ac ar gostau gweinyddu gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi, a chadarnhau na fyddai’r incwm yn y gronfa yn ddarostyngedig i drethiant. Byddai llwyddiant hefyd yn dibynnu ar sicrhau bod y cynllun yn cael ei ystyried yn deg: byddai angen i fuddion adlewyrchu cyfraniadau.

Roedd yr adroddiad hefyd yn awgrymu y dylai pobl ag asedau (fel arfer, eiddo) allu cadw cyfran fwy o’u cyfoeth os ydynt yn gwneud cyfraniadau.  Byddai hyn yn sicrhau na fyddai neb yn gorfod cyfrannu at y gronfa gofal cymdeithasol a thalu costau llawn eu gofal.

Er ei fod yn croesawu adroddiad yr Athro Holtham, roedd y Pwyllgor Cyllid yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru barhau i ymchwilio i ddewisiadau cyllido eraill. Dylai hefyd barhau i ymgysylltu â’r cyhoedd ynglŷn â’r gofal y mae’n disgwyl ei gael, a sut y dylai’r gofal hwnnw gael ei ariannu.

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Yn ogystal ag ystyried y grym cyllidol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ddiwygio’r trefniadau ar gyfer ariannu gofal cymdeithasol, roedd ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid yn edrych ar agweddau eraill ar gostau gofalu am boblogaeth sy’n heneiddio. Roedd ei adroddiad, Cost Gofalu am Boblogaeth Heneiddio (PDF, 989KB) a gaiff ei drafod gan y Cynulliad ar 9 Ionawr 2019, yn crynhoi’r dystiolaeth a gafwyd gan amrywiaeth o randdeiliaid ac yn nodi casgliadau ac argymhellion y Pwyllgor.

Y pwysau ariannol ar y system gofal cymdeithasol

Nododd y Pwyllgor bryderon ynghylch bregusrwydd y sector gofal annibynnol a’r argyfwng cadw a recriwtio o ran y gweithlu gofal cymdeithasol.  Mae rhai darparwyr yn rhoi contractau yn ôl i awdurdodau lleol gan eu bod yn credu nad yw lefelau ffioedd yn hyfyw yn ariannol.

Nid yw cyflog isel a statws isel canfyddedig y rôl gofal cymdeithasol yn atyniadol i staff presennol na darpar staff. Dylai datblygu strategaeth ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol a chymryd camau priodol i godi statws y proffesiwn fod yn flaenoriaethau i Lywodraeth Cymru, yn ôl y Pwyllgor.

Galwadau ar y system gofal cymdeithasol

Yn gyffredinol, mae gwariant ar ofal cymdeithasol yng Nghymru wedi’i ddiogelu  yn ystod y blynyddoedd o gyni. Fodd bynnag, gostyngodd gwariant y pen ar bobl 65 mlwydd oed a hŷn 14% rhwng 2009-10 a 2016-17, gan fod gwasanaethau’n canolbwyntio ar gefnogi pobl sydd â rhagor o anghenion. Pwysleisiodd y Pwyllgor fod angen tystiolaeth gadarn i amcangyfrif lefel bresennol yr angen heb ei ddiwallu ac i ragweld y galw am wasanaethau yn y dyfodol.

Effaith polisïau Llywodraeth Cymru

Roedd yr adroddiad hefyd yn mynegi pryder am effeithiolrwydd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i sicrhau cefnogaeth ddigonol i’r 370,000 o ofalwyr anffurfiol sy’n darparu’r rhan fwyaf o ofal cymdeithasol yng Nghymru. Argymhellodd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn gwerthuso a yw’r ddeddfwriaeth yn gweithredu fel y bwriadwyd.

Mae’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon wrthi’n ymchwilio i’r gefnogaeth a roddir i ofalwyr o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor

Darparodd Llywodraeth Cymru ei hymateb (PDF, 636K) i’r naw argymhelliad yn Adroddiad y Pwyllgor, ac roedd yn derbyn pob un ohonynt, naill ai’n gyfan gwbl neu mewn egwyddor.

Mae’r ymateb yn nodi’r gwaith a wneir ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys gwaith y Grŵp Rhyng-Weinidogol ar Dalu am Ofal Cymdeithasol, a fydd yn parhau yn 2019 ac yn llywio penderfyniad Llywodraeth Cymru ynghylch ai ardoll gofal cymdeithasol yw’r ateb ar gyfer Cymru.

Yn ei adroddiad, dywed y Pwyllgor Cyllid ei fod, yn gynnar yn 2020, am adolygu’r cynnydd a wnaed o ran gweithredu ei argymhellion.

Yn y cyfamser, mae Papur Gwyrdd Llywodraeth y DU ar ofal cymdeithasol oedolion ar fin cael ei gyhoeddi.  Er ei fod yn ymwneud yn bennaf â gofal cymdeithasol yn Lloegr, efallai y bydd rhai o’r cynigion yn berthnasol i Gymru.


Erthygl gan Jo McCarthy ac Steve Boyce, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru