Trafnidiaeth

Dyfodol y Rheilffyrdd yng Nghymru

Ar 5 Chwefror, bydd Dyfodol y Rheilffyrdd yng Nghymru yn cael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn. Cyn y ddadl, mae'r blog hwn yn nodi rhywfaint o gefndir a datblygiadau diweddar o ran seilwaith a masnachfraint y rheilffyrdd yng Nghymru.

31 Ionawr 2019

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 5 Chwefror, bydd Dyfodol y Rheilffyrdd yng Nghymru yn cael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn. Cyn y ddadl, mae’r blog hwn yn nodi rhywfaint o gefndir a datblygiadau diweddar o ran seilwaith a masnachfraint y rheilffyrdd yng Nghymru.

Beth sydd wedi’i ddatganoli?

Mae ariannu a gweithredu gwasanaethau a seilwaith y rheilffyrdd yng Nghymru yn ddarlun cymhleth. Mae cymhwysedd deddfwriaethol yn ymwneud â seilwaith a masnachfraint rheilffyrdd Prydain wedi eu neilltuo i San Steffan, fel na all Senedd yr Alban na Chynulliad Cymru ddeddfu i newid y fframwaith y mae’r rheilffyrdd yn gweithredu oddi mewn iddo.

Fodd bynnag, mae pwerau masnachfreinio gweithredol wedi’u datganoli i Gymru a’r Alban, gyda rhai gwahaniaethau – er enghraifft mae gwaharddiad cyfreithiol ar i weithredwyr y sector cyhoeddus wneud cais am fasnachfreiniau, a’u rhedeg yng Nghymru ond fe’i diddymwyd yn yr Alban.  Mae Llywodraeth y DU yn parhau i fod yn gyfrifol am gynllunio’r seilwaith a chyllido Network Rail yng Nghymru, yn wahanol i’r Alban lle mae’r agwedd hon wedi’i datganoli. Er bod y Comisiwn ar ddatganoli yng Nghymru wedi argymell bod y seilwaith yn cael ei ddatganoli, cafodd hyn ei ddiystyru yn y Papur Gorchymyn Dydd Gŵyl Dewi. Er bod gan Weinidogion Cymru bwerau i fuddsoddi mewn seilwaith, nid yw Cymru yn cael dyraniad grant bloc ar gyfer hyn.

Masnachfraint

Yn gyffredinol, gweithredir gwasanaethau cludo teithwyr ar y rheilffyrdd yn y DU drwy gytundebau masnachfraint.

Sefydlwyd Trafnidiaeth Cymru (TfW) gan Lywodraeth Cymru yn 2015 fel is-gwmni dan berchnogaeth lwyr sy’n gyfyngedig drwy warant. Ei ddiben cychwynnol oedd caffael y fasnachfraint rheilffyrdd newydd yng Nghymru a’r gwasanaethau Metro ar gledrau’r cymoedd. Roedd y broses gaffael yn cynnwys trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ar ddatganoli pwerau masnachfreinio rheilffyrdd i Gymru. Mae datganoli yn cynnwys ystod o gytundebau â Llywodraeth y DU.

Ar 23 Mai 2018, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet ar y pryd (y Gweinidog bellach) dros yr Economi a Thrafnidiaeth fod KeolisAmey wedi cael contract y fasnachfraint. Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet ragor o fanylion mewn datganiad ysgrifenedig gyda datganiad llafar i’r Cyfarfod Llawn i ddilyn ar 4 a 5 Mehefin yn y drefn honno.  Yn ei ddatganiad ysgrifenedig ar 4 Mehefin, nododd Ysgrifennydd y Cabinet yn glir fod Trafnidiaeth Cymru a KeolisAmey yn cyflwyno’r fasnachfraint drwy “bartneriaeth”, wedi ei brandio fel Trafnidiaeth Cymru. Dechreuodd TfWRail weithredu gwasanaethau o 14 Hydref 2018.

Mewn datganiadau dilynol trafododd Ysgrifennydd y Cabinet faterion ehangach, gan gynnwys sut y byddai’r contract newydd yn manteisio i’r eithaf ar fuddion economaidd i Gymru, yn ogystal â buddsoddi mewn cyfleusterau depo cerbydau i gefnogi’r Metro De Cymru newydd.

Ariannu yn y dyfodol

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyhoeddusrwydd i fuddsoddiad o £5 biliwn yn y fasnachfraint rheilffyrdd dros ei oes o 15 mlynedd. Mae papur cyllideb drafft 2019-20 Ysgrifennydd y Cabinet yn disgrifio buddsoddiad cyhoeddus gwerth £4.7 biliwn gan gynnwys: £3 biliwn ar gyfer gwasanaethau; £793m ar gyfer Metro De Cymru a Depo Ffynnon Taf; a £900m i weithredu a chynnal Cymoedd De Cymru “craidd” ar ôl trosglwyddo’r berchnogaeth i Lywodraeth Cymru.

Dyddiau cynnar Trafnidiaeth Cymru

Mae’n ddiogel dweud bod dyddiau cynnar y fasnachfraint TfWRail newydd wedi bod braidd yn sigledig, gydag amhariad sylweddol i’w wasanaethau. Ar 19 Tachwedd 2018, trydarodd a chyhoeddodd TfWRail lythyr  yn ymddiheuro am yr achosion o oedi, canslo ac anawsterau eraill gyda’i wasanaethau.  Cymerodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau dystiolaeth ar yr amhariad gan TfW ar 29 Tachwedd, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar 5 Rhagfyr, a Network Rail, Trenau Arriva Cymru a rhagor o dystiolaeth gan TfW ar 9 Ionawr.

Adolygiad Williams o’r Rheilffyrdd

Ym mis Medi 2018, yn dilyn amhariad mawr i wasanaethau yn Lloegr o ganlyniad i newidiadau yn amserlen mis Mai 2018, lansiodd Llywodraeth y DU ‘adolygiad ysgubol i drawsnewid rheilffyrdd Prydain’. Nod Adolygiad Williams o’r Rheilffyrdd – dan arweiniad y Cadeirydd annibynnol Keith Williams (cyn Brif Weithredwr British Airways a Dirprwy Gadeirydd Partneriaeth John Lewis) – yw:

… build on the government’s franchising strategy – bringing track and train closer together to reduce disruption and improve accountability, and considering regional partnerships and how we can use innovation to improve services and value for money for passengers. 

Bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi Papur Gwyn ar argymhellion yr adolygiad, gyda’r bwriad o roi’r diwygiadau ar waith o 2020.

Ar 11 Rhagfyr, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ysgrifenedig ar Adolygiad Williams or’ Rheilffyrdd. Dywedodd, er ei fod yn croesawu’r adolygiad, fod y cyd-destun ar gyfer darparu rheilffyrdd yng Nghymru yn ‘gymhleth, ac yn rhanedig ac nid oes digon o gyllid yn cael ei neilltuo i wneud hynny’. Dywedodd ‘mae’r setliad datganoli diffygiol hwn yn sail i lawer o’r problemau yng nghyswllt ein rheilffyrdd’. Amlinellodd nifer o faterion penodol yr hoffai i’r adolygiad fynd i’r afael â nhw, gan gynnwys:

  • Trosglwyddo perchnogaeth seilwaith rheilffyrdd Cymru;
  • Setliad ariannol teg sy’n ymestyn i welliannau;
  • Y gallu i ddewis o ystod o fodelau cyflenwi gwasanaethau teithwyr rheilffyrdd yng Nghymru;
  • Dileu’r gwaharddiad ar weithredwyr y sector cyhoeddus sy’n gwneud cais am wasanaethau teithwyr rheilffyrdd Cymru, ac sy’n gweithredu’r gwasanaethau hynny; a
  • Trefniadau ar gyfer perchnogi, dyrannu a rheoli cerbydau sy’n gwasanaethu anghenion Cymru.

Seilwaith y rheilffyrdd

Ym mis Gorffennaf 2017, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei Manyleb Allbwn Lefel Uchel (HLOS) a Datganiad o Gronfeydd sydd ar gael ar gyfer Cyfnod Rheoli nesaf y rheilffyrdd (CP6 2019-24). Mae’r datganiadau statudol hyn yn nodi’r hyn y mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth yn dymuno i’r rheilffordd yng Nghymru a Lloegr ei gyflawni. Ar yr un diwrnod daeth i’r amlwg fod Llywodraeth y DU wedi rhoi’r gorau i’r cynlluniau ar gyfer trydaneiddio Prif Linell Great Western rhwng Caerdydd ac Abertawe. Ynghyd â’r cyhoeddiad hwn, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd ddatganiad i’r wasg yn nodi y byddai Network Rail yn datblygu opsiynau ychwanegol i wella teithiau i deithwyr yng Nghymru – gan restru pum enghraifft benodol yn y gogledd a’r de.

Mewn ymateb, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ysgrifenedig yn mynegi ei siom gyda’r HLOS gan ddatgan nad yw’n gwneud:

unrhyw ymrwymiad gan Lywodraeth y DU i wella ein rhwydwaith rheilffyrdd yn y cyfnod 2019-2024, ond nid yw chwaith yn cadw at yr ymrwymiad i drydaneiddio’r llinell rhwng Caerdydd ac Abertawe .

Aeth ymlaen i feirniadu gwariant Llywodraeth y DU ar welliannau seilwaith yng Nghymru:

Er bod Cymru a’r Gororau yn cynnwys oddeutu 11 y cant o gledrau’r rheilffyrdd yng Nghymru a Lloegr, nid yw’r ardal wedi elwa ar ddim ond 1.5 y cant o arian Llywodraeth y DU sy’n cael ei wario ar wella’r rheilffyrdd ers 2011.

Newid ymagwedd ar gyfer prosiectau seilwaith mawr

Mae’r ffordd y mae prosiectau gwella rheilffyrdd mawr yn cael eu cynllunio gan Lywodraeth y DU yng Nghymru a Lloegr yn newid. Lle y byddai Llywodraeth y DU yn y gorffennol wedi nodi prif brosiectau seilwaith i’w cyflawni ym mhob Cyfnod Rheoli, mae piblinell gwella’r rhwydwaith rheilffyrdd (RNEP) yn cynrychioli ymagwedd newydd tuag at brosiectau sydd angen cyllid gan y llywodraeth.

Dywed Llywodraeth y DU fod yr ymagwedd yn creu rhaglen dreigl o fuddsoddiad, gan ganolbwyntio ar ganlyniadau sy’n darparu manteision i deithwyr, defnyddwyr cludo nwyddau a’r economi ac sy’n symud buddsoddiad y llywodraeth o’r cylch pum mlynedd presennol. 

Ym mis Rhagfyr 2018, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ysgrifenedig ar Welliannau i’r Seilwaith Rheilffyrdd. Ynddo, nododd ei farn nad yw proses y DfT ar gyfer gwella’r biblinell bresennol yn gwasanaethu Cymru’n dda. Dywedodd ei fod yn cytuno i ddefnyddio’r ymagwedd newydd er mwyn sicrhau buddsoddiad yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru, ond bod hyn yn dibynnu a fyddai Llywodraeth y DU yn defnyddio’r broses i fuddsoddi ar gyflymder. Fodd bynnag, dywedodd fod ‘cynnydd wedi bod yn araf iawn’:

Hyd yn hyn, nid ydym wedi gweld yr un o’r achosion busnes y gwnaeth Llywodraeth y DU eu haddo i ni’r llynedd, does dim cyllid wedi cael ei neilltuo i ddatblygu ymhellach, a does dim eglurder o ran y camau nesaf a’r amserlenni. Mae hyn yn annerbyniol. Ni allwn ymgymryd â phroses fiwrocrataidd ddiddiwedd sy’n ymddangos ei bod wedi’i llunio i atal y buddsoddiad y mae ei angen ar frys.

Yr achos dros fuddsoddi

Ar 11 Rhagfyr, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet yr Achos dros fuddsoddi yn seilwaith y rheilffyrdd a baratowyd ar gyfer Llywodraeth Cymru gan yr Athro Mark Barry. Mae’r adroddiad yn cynnwys cynigion manwl ar gyfer buddsoddi yn y seilwaith yn y gogledd a’r de ac mae’n cyflwyno gweledigaeth gyffredinol ar gyfer y rheilffyrdd yng Nghymru. Yn flaenorol, ar 8 Mai, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad llafar yn y Cyfarfod Llawn ar Uchelgeisiau ar gyfer Prif Linellau Rheilffordd Great Western a Gogledd Cymru.  Yma, cyfeiriodd at waith yr Athro Barry, gan ddweud y bydd yn:

llywio achosion busnes amlinellol strategol y cynlluniau unigol sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd gan Drafnidiaeth Cymru a’r Adran Drafnidiaeth […] Byddant yn sefydlu gweledigaeth gyffredinol ar gyfer y dyfodol i rwydweithiau’r gogledd a’r de sy’n bodloni dyheadau Llywodraeth Cymru ac, yn wir, dyheadau rhanddeiliaid allweddol eraill.


Erthygl gan Chloe Corbyn, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru