Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG

Beth yw’r newyddion diweddaraf o ran gofal iechyd trawsffiniol?

Mae diddordeb newydd yn y trefniadau o ran gofal iechyd trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr yn dilyn penderfyniad diweddar Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbyty Duges Caer i beidio â derbyn atgyfeiriadau newydd ar gyfer triniaeth ddewisol (wedi'i chynllunio) i gleifion yng Nghymru.

Amcangyfrif o amser darllen: 6 Munud

30 Ebrill 2019

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae diddordeb newydd yn y trefniadau o ran gofal iechyd trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr yn dilyn  penderfyniad diweddar Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbyty Duges Caer i beidio â derbyn atgyfeiriadau newydd ar gyfer triniaeth ddewisol (wedi’i chynllunio) i gleifion yng Nghymru.

Dywedodd yr Ymddiriedolaeth fod y penderfyniad hwn o ganlyniad i faterion cyllido heb eu datrys, a’i bod yn gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i ddatrys y mater.

Yn gynharach y mis hwn, dywedodd y Prif Weinidog y canlynol wrth un o bwyllgorau’r Cynulliad:

“Over the period of devolution, there have been regular suggestions from English providers that, somehow, Wales doesn’t pay our bills. And every time that has been looked at, that has turned out not to be true. We always pay our bills, and we will, of course, pay our bill in relation to north Wales patients in the Countess of Chester.”

Mae nifer sylweddol o gleifion yn croesi’r ffin rhwng Cymru a Lloegr ym mhob maes gofal iechyd.

O ran gwasanaethau ysbyty, mae diffyg darpariaeth yn ardal leol y claf yn ffactor allweddol. Efallai na fydd digon o bobl yn byw mewn rhai ardaloedd i gefnogi ysbyty mawr neu ganolfan arbenigol, ac efallai y bydd angen i gleifion o’r ardaloedd hyn deithio ymhellach – gan gynnwys dros y ffin – ar gyfer triniaeth. Yn 2017-18, derbyniwyd oddeutu 60,000 o breswylwyr Cymru i ysbytai yn Lloegr. Yn yr un cyfnod, triniodd ysbytai Cymru 11,000 o breswylwyr o Loegr.  

O ran gofal sylfaenol, caiff cleifion sy’n byw mewn ardaloedd ar y ffin ddewis cofrestru gyda meddyg teulu sydd mor agos at eu cartrefi â phosibl, hyd yn oed os nad yw yn y wlad y maent yn byw ynddi. Ym mis Ionawr 2019, roedd oddeutu 13,500 o breswylwyr o Gymru wedi’u cofrestru gyda meddyg teulu yn Lloegr, ac roedd mwy na 21,000 o breswylwyr o Loegr wedi’u cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru.

Pan fo gwahaniaeth polisi rhwng y GIG yng Nghymru a’r GIG yn Lloegr, gall fod ansicrwydd i’r cleifion dan sylw ynghylch eu sefyllfa. Mae’r cwestiynau cyffredin yn cynnwys: a gânt ddewis yr ysbyty y byddant yn mynd iddo i gael triniaeth? Pa mor hir y dylent ddisgwyl aros cyn dechrau cael triniaeth? A yw polisi presgripsiynau am ddim Cymru yn gymwys iddynt? 

Egwyddorion trawsffiniol

Yn Lloegr, mae gan gleifion yr hawl i ddewis i ba ysbyty y bydd eu meddyg teulu yn eu hanfon. Mae hyn hefyd yn gymwys i breswylwyr o Gymru sy’n byw mewn ardaloedd ar y ffin sydd wedi’u cofrestru gyda meddyg teulu yn Lloegr. Mae’r hawl gyfreithiol hon yn caniatáu i gleifion ddewis unrhyw ysbyty yn Lloegr sy’n cynnig triniaeth addas sy’n cyrraedd safonau’r GIG ac o fewn costau’r GIG.

Nid yw’r GIG yng Nghymru yn gweithredu system o roi’r dewis i gleifion, ond mae’n ceisio darparu gwasanaethau yn agos at gartref y claf pan fo hynny’n bosibl. O dan brotocol blaenorol, byddai preswylwyr o Loegr sydd â meddyg teulu yng Nghymru yn cael eu hatgyfeirio’n awtomatig ar gyfer triniaeth yng Nghymru. Mae’r datganiad o werthoedd ac egwyddorion (Tachwedd 2018) newydd yn caniatáu i breswylwyr o Loegr sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru ddewis a ydynt am gael eu trin yng Nghymru, neu mewn ysbyty o’u dewis yn Lloegr. Nod y trefniadau newydd yw mynd i’r afael â phryderon bod hawliau cleifion o Loegr yn cael eu gwrthod dan gyfansoddiad y GIG yn Lloegr, er enghraifft hawl y claf i ddewis ysbyty, ac i’w driniaeth gael ei darparu o fewn amseroedd aros targed GIG Lloegr. O ran preswylwyr o Gymru sydd â meddyg teulu yng Nghymru, mae’r sefyllfa’n aros yr un fath, ac nid oes ganddynt hawl statudol i ddewis yr ysbyty y byddant yn cael eu hanfon iddo.

Mae’r tabl isod yn rhoi crynodeb o’r hyn y gall cleifion ei ddisgwyl o ran y safonau ar gyfer cael gofal iechyd yn dibynnu ar ble y maent yn byw, lleoliad eu meddyg teulu a’u darparwr gofal iechyd.  (Yn ogystal â thargedau amseroedd aros mae hyn yn cynnwys trothwyon ar gyfer triniaeth a meini prawf atgyfeirio eraill a bennir gan y bwrdd iechyd lleol neu’r grŵp comisiynu clinigol.)

Presgripsiynau am ddim

Mae gan bob claf sydd wedi’i gofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru hawl i gael presgripsiynau am ddim, gan gynnwys preswylwyr o Loegr sydd â’u meddyg teulu yng Nghymru. Fodd bynnag, dim ond mewn fferyllfeydd yng Nghymru y caiff presgripsiynau eu rhoi yn rhad ac am ddim. Codir tâl ar gleifion sy’n casglu eu presgripsiynau y tu allan i Gymru ar y cyfraddau sy’n gymwys yn y wlad honno.

Mae cleifion o Gymru sydd â meddyg teulu yn Lloegr hefyd yn gymwys i gael presgripsiynau am ddim, ond byddai angen iddynt wneud cais am ‘gerdyn hawlio’ gan eu Bwrdd Iechyd.

Os caiff cleifion o Gymru eu trin mewn ysbytai neu gan wasanaethau y tu allan i oriau yn Lloegr, ac os codir tâl arnynt am bresgripsiynau yn ôl cyfradd Lloegr, cânt hawlio ad-daliad.

Trefniadau cyllido

Gofal brys

Mae Byrddau Iechyd yng Nghymru a Grwpiau Comisiynu Clinigol yn Lloegr yn gyfrifol am gomisiynu gwasanaethau damweiniau ac achosion brys i unrhyw un yn eu hardal ddaearyddol, ni waeth lle y mae claf yn byw na leoliad ei feddyg teulu. 

Gofal sylfaenol

Ni throsglwyddir cyllid rhwng Cymru a Lloegr ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol a ddarperir dros y ffin, gan gynnwys gwasanaethau meddyg teulu, deintyddiaeth a gwasanaethau offthalmig. Bydd unrhyw gostau yn cael eu talu lle y maent yn codi, drwy drefniant dwyochrog sy’n taro rhyw fath o gydbwysedd bras. Dywedodd cyn-Weinidog Iechyd Cymru y canlynol yn ystod ymchwiliad dilynol y Pwyllgor Materion Cymreig i drefniadau iechyd trawsffiniol:

“At primary care, we essentially operate on a knock-for-knock basis. The Welsh NHS picks up the costs of primary care for some patients who live in England and the English NHS picks up the primary care costs for some patients who live in Wales.”

Gofal eilaidd

O ran cleifion sydd wedi’u cofrestru gyda meddyg teulu dros y ffin, nod y datganiad o werthoedd ac egwyddorion yw na fydd unrhyw ddiffyg ariannol ar ran Bwrdd Iechyd Cymru na’r Grŵp Comisiynu Clinigol yn Lloegr o ran darparu gwasanaethau gofal iechyd i breswylwyr o’r wlad arall.

Mae Llywodraeth Cymru yn cael taliad blynyddol gan Adran Iechyd y DU er mwyn cydnabod y costau gofal eilaidd ychwanegol sy’n dod i’r GIG yng Nghymru o ganlyniad i’r mewnlifiad net o gleifion sy’n defnyddio gofal sylfaenol yng Nghymru (mae mwy o breswylwyr o Loegr sy’n byw ar y ffiniau sydd wedi’u cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru). Ffigur y setliad yw £5.8 miliwn ar hyn o bryd.

Pan fo preswylwyr o Loegr sydd â meddyg teulu yn Lloegr yn cael gwasanaethau gofal eilaidd/trydyddol yng Nghymru, y darparwr yng Nghymru a’r comisiynydd yn Lloegr sy’n cytuno’n lleol ar y taliad. Nid yw GIG Cymru yn defnyddio tariff safonol. Dylai’r swm a delir adlewyrchu cost y gweithgaredd i’r darparwr yng Nghymru.

O ran cleifion o Gymru (sydd â meddyg teulu yng Nghymru) sy’n cael triniaeth yn Lloegr, comisiynwyr Cymru (Byrddau Iechyd Lleol a Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru) sy’n talu darparwyr yn Lloegr, naill ai dan drefniadau cytundebol neu drefniadau nad ydynt yn gytundebol, yn unol â phrisiau’r tariff cenedlaethol.

Wrth gyfeirio at y sefyllfa barhaus rhwng Ysbyty Duges Caer a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, dywedodd y Prif Weinidog y canlynol wrth Aelodau’r Cynulliad:

“Welsh patients are part of their bottom line in the way that the English system is run, and, if they choose not to provide those services, then they will have to face up to the fact that the income stream that they rely on that comes from Wales is not going to flow to them in future. So, there are very good reasons why the Countess of Chester needs to come to the table in a constructive way of resolving these things, as we will too.”

Ar 11 Ebrill, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd ddatganiad i dynnu sylw at y camau gweithredu a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru.  

“Fy mlaenoriaethau yw datrys y mater lleol hwn ar fyrder a sicrhau ein bod yn gallu cytuno ar drefniant cadarn a theg ar gyfer taliadau trawsffiniol – trefniant sy’n rhoi gofal cleifion yn gyntaf.

Mae swyddogion wedi bod mewn cysylltiad agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i sicrhau bod trafod a chyfathrebu yn digwydd gyda phartneriaid a bod cleifion yn cael gwybodaeth a chymorth. Mae’r Bwrdd Iechyd yn rhoi systemau a phrosesau dros dro ar waith i wneud yn siŵr bod cleifion yn cael y gofal angenrheidiol.”


Erthygl gan Philippa Watkins, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru