A sign with ‘Gorsaf Bleidleisio

A sign with ‘Gorsaf Bleidleisio

Cofiwch ddod â’ch dull adnabod!: Etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu 2024 a chyflwyno dull adnabod pleidleiswyr

Cyhoeddwyd 23/04/2024   |   Amser darllen munudau

Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ar 2 Mai 2024 fydd y tro cyntaf y bydd angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos dull adnabod â llun mewn gorsafoedd pleidleisio.

Mae'r erthygl hon yn ystyried y ddadl ynghylch cyflwyno dull adnabod pleidleiswyr ac yn ystyried effeithiau posibl y polisi.

Beth yw Comisiynwyr Heddlu a Throseddu?

Sefydlwyd y rôl yn sgil Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011, a chaiff Comisiynwyr Heddlu a Throseddu (PCC) eu hethol gan y cyhoedd i ddwyn heddluoedd a Phrif Gwnstabliaid yng Nghymru a Lloegr i gyfrif. Mae eu cyfrifoldebau’n cynnwys gosod cyllidebau heddlu ac ymgysylltu â chymunedau i osod cynlluniau heddlu a throseddu, a threfnu prosiectau lleol.

Caiff un Comisiynydd ei ethol ar gyfer pob un o’r pedair ardal heddlu yng Nghymru, sef: Gogledd Cymru, Dyfed-Powys, Gwent a De Cymru.

Ceir rhagor o wybodaeth am gefndir a rôl y Comisiynwyr yn ein herthygl.

Beth sy'n newydd yn yr etholiad hwn?

Roedd y Ddeddf Etholiadau 2022 (y Ddeddf) yn cyflwyno newidiadau sylweddol i etholiadau yn y DU. Yng Nghymru, dim ond etholiadau senedd y DU ac etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yr effeithir arnynt.

Etholwyd Comisiynwyr yn flaenorol gan ddefnyddio'r System Bleidlais Atodol, ble y gallai pleidleiswyr nodi dewis cyntaf ac ail ddewis. Newidiodd y Ddeddf hyn fel y bydd Comisiynwyr bellach yn cael eu hethol ar sail y Cyntaf i'r Felin, sef yr un system sydd ar waith ar gyfer etholiadau i Dŷ’r Cyffredin.

Newid arwyddocaol arall a gyflwynwyd yn sgil y Ddeddf yw'r angen i ddangos dull adnabod â llun wrth fwrw pleidlais mewn gorsaf bleidleisio.

Bydd yn rhaid i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos dull adnabod â llun wrth bleidleisio yn:

  • etholiadau senedd y DU, gan gynnwys etholiadau cyffredinol, isetholiadau a deisebau adalw; ac
  • Etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu.

Mae’r Comisiwn Etholiadol yn rhestru ar ei wefan pa fathau o ddulliau adnabod â llun sy’n dderbyniol. Gall pleidleiswyr nad oes ganddynt ddull adnabod derbyniol wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am Dystysgrif ar gyfer yr etholiad Comisiynwyr Heddlu a Throseddu hwn yw 24 Ebrill.

Nid yw dull adnabod â llun yn ofynnol ar gyfer etholiad y Senedd nac etholiadau lleol yng Nghymru.

Dull adnabod pleidleisiwr - mater dadleuol

Ar ôl cyhoeddi adroddiad i dwyll etholiadol, cyflwynodd Llywodraeth y DU argymhellion i dreialu cyflwyno dull adnabod pleidleisiwr.

Roedd yn dadlau bod data a gasglwyd o ganlyniad i gynlluniau peilot dilynol yn ystod yr etholiadau lleol yn Lloegr ym mis Mai 2018 a 2019 ‘yn dangos bod y gofyniad i ddangos dull adnabod wedi cynyddu hyder pleidleiswyr yn y broses etholiadau’.

Dywedodd Chloe Smith AS, Cyn Ysgrifennydd Seneddol yn Swyddfa’r Cabinet yn 2019 bod pobl o bob cefndir yn dangos dull adnabod bob dydd, ac ‘na ddylai profi pwy ydym ni cyn i ni wneud penderfyniad hynod bwysig yn y blwch pleidleisio fod yn ddim gwahanol’.

Roedd Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu cyflwyno dull adnabod pleidleiswyr, gan ddatgan ei bod:

…yn pryderu am ganlyniadau anfwriadol posibl megis dryswch i bleidleiswyr ac ymgeiswyr a chymhlethdod i weinyddwyr…

Ym mis Tachwedd 2021, roedd Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol, yn feirniadol o’r cynnig ar gyfer dulliau adnabod pleidleiswyr:

…nad oes sail dystiolaethol iddyn nhw ac sy'n amlwg yn rhoi'r rhai sy'n llai tebygol o fod â'r mathau gofynnol o gardiau adnabod o dan anfantais...

Dadl y Gymdeithas Diwygio Etholiadol (ERS) oedd fod cyflwyno dull adnabod pleidleisiwr yn ymateb anghymesur i lefelau hanesyddol isel iawn o “dwyll personadu” – hynny yw, “mae person yn esgus bod yn rhywun arall er mwyn gallu defnyddio pleidlais y person hwnnw”.

Roedd y Gymdeithas Diwygio Etholiadol hefyd yn dadlau y gallai ei gyflwyno gael effaith negyddol anghymesur ar rai grwpiau o bleidleiswyr, fel pobl ddi-waith, pobl ag anableddau, a’r rhai nad oes ganddynt gymwysterau.

Pa effaith mae dull adnabod pleidleisiwr wedi'i chael yn Lloegr?

Ar wahân i'r cynlluniau peilot, defnyddiwyd dulliau adnabod pleidleiswyr am y tro cyntaf yn Lloegr yn etholiadau lleol mis Mai 2023.

Roedd Adroddiad y Comisiwn Etholiadol ar yr etholiadau yn dod i'r casgliad bod ‘rhai pobl yn ei chael hi’n anoddach nag eraill i ddangos dull adnabod pleidleisiwr derbyniol, gan gynnwys pobl anabl a phobl ddi-waith’.

Mae’n nodi dau fater sy’n gorgyffwrdd sy’n achosi hyn, sef ‘yr amrywiadau o ran bod yn berchen ar ddull adnabod â llun derbyniol’, ac ‘ymwybyddiaeth o’r angen i ddangos dull adnabod wrth bleidleisio wyneb yn wyneb’. Mae’n dadlau y dylid gwneud gwelliannau i wella hygyrchedd ac i gefnogi’r bobl hynny nad oes ganddynt ffurf dderbyniol ar ddull adnabod cyn etholiadau yn y dyfodol.

Gwnaeth y Comisiwn bum argymhelliad i Lywodraeth y DU, gan gynnwys adolygu’r rhestr o ddulliau adnabod a dderbyniwyd, gwella mynediad at Dystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr, a pharhau i gasglu data am effaith defnyddio dull adnabod pleidleisiwr.

Yn ogystal â nodi ei ymateb i bob argymhelliad, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei dadansoddiad ei hun o'r etholiadau lleol. Daeth i'r casgliad a ganlyn:

Overall, the introduction of the photographic identification requirement did not impact on the likelihood or experience of voting in the May 2023 English local elections among voting age adults with accepted photographic identification and trust in the in-person voting system remains high. However, those without accepted photographic identification were much more likely to say that the voter identification requirement made them less likely to vote.

Mae rhai academyddion wedi mynegi pryderon ynghylch effaith dull adnabod pleidleiswyr ar nifer y rhai sy’n pleidleisio.

Dywedodd yr Athro Petra Schleiter o Brifysgol Rhydychen fod dadansoddiad wedi dangos ‘effaith sylweddol a negyddol ar allu pobl i gymryd rhan yn yr etholiadau’. Mae hi'n amcangyfrif bod nifer y rhai a bleidleisiodd rhwng 1 a 5.5% yn llai yn yr etholiadau lleol yn Lloegr oherwydd y gofyniad am ddull adnabod pleidleiswyr.

Dywedodd yr Athro Toby James, Cyd-gyfarwyddwr y Prosiect Uniondeb Etholiadol, mewn papur a gyflwynwyd i Bwyllgor Cyfansoddiad Tŷ’r Arglwyddi fod y dystiolaeth yn glir bod dull adnabod pleidleiswyr yn arwain at fod llawer o ddinasyddion yn peidio â phleidleisio, a fyddai fel arall wedi gwneud hynny. Dywed fod dros 70% o weithwyr mewn gorsafoedd pleidleisio, yn 2023, wedi troi o leiaf un etholwr i ffwrdd oherwydd nad oedd ganddyn nhw'r ffurf briodol o ddull adnabod.

Ni fydd yr etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu a gaiff eu cynnal cyn bo hir yng Nghymru yn cyd-daro ag etholiadau eraill. Pryd bynnag y mae hyn wedi digwydd o'r blaen, mae nifer y rhai a bleidleisiodd wedi bod yn weddol fach ar y cyfan; yn yr etholiadau yn 2012 roedd nifer y rhai a bleidleisiodd yn ddim ond 15.1% ar draws Cymru a Lloegr. Rhaid aros i weld a fydd y gofyniad i ddangos dull adnabod pleidleiswyr yn effeithio ar y ffigur hwn.

Darlun sy'n dod i'r amlwg?

Nid yw'n glir eto pa effaith y bydd y gofyniad i ddod â dull adnabod â llun i orsafoedd pleidleisio yn ei chael ar etholiadau yng Nghymru. Mae'n debygol y bydd yr etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu ym mis Mai yn ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol a fydd yn ein helpu i ddeall beth yw goblygiadau’r polisi.


Erthygl gan Adam Cooke, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru