Craffu ar flaenoriaethau’r Prif Weinidog newydd

Cyhoeddwyd 26/04/2024   |   Amser darllen munudau

Mae'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn cynnal sesiwn graffu gyffredinol ar 26 Ebrill 2024 gyda'r Prif Weinidog newydd, Vaughan Gething AS. Rydym wedi llunio papur briffio yn amlinellu’r addewidion a wnaed gan Vaughan Gething yn ystod ymgyrch arweinyddiaeth Llafur Cymru, a’r ymrwymiadau a wnaed ers iddo ddod yn Brif Weinidog.

Rydym hefyd wedi cyhoeddi erthygl yn ddiweddar ar raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, yn sgil cael Prif Weinidog newydd.

Mae’r Pwyllgor hefyd yn cynnal sesiwn yn ei gyfarfod ar 26 Ebrill ynghylch Plant sydd â Phrofiad o fod mewn Gofal. Mae'n faes polisi sy'n ganolbwynt i amrywiaeth o ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu ac y mae nifer o Bwyllgorau'r Senedd wedi craffu arno. Rydym wedi cyhoeddi papur briffio ar wahân ar y pwnc.

Gellir gwylio cyfarfod y Pwyllgor yn fyw, neu ar alw, ar SeneddTV. Bydd trawsgrifiad ar gael ychydig ddyddiau wedyn.


Erthygl gan Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru