Mae'r rhaglen yn un pedair blynedd o dan arweiniad Canolfan Ecoleg a Hydroleg y Cyngor Ymchwil i'r Amgylchedd Naturiol, Bangor. Wrth ddisgrifio'r rhaglen, nododd awduron yr adroddiad y canlynol:
dyma'r rhaglen monitro a gwerthuso mwyaf a mwyaf manwl o ecosystemau gan unrhyw Aelod-wladwriaeth ac Awdurdod Rheoli yn yr Undeb Ewropeaidd.
Mae'r rhaglen yn mesur effeithiau cynllun Glastir ar y dirwedd trwy gynnal arolwg o 360 o sgwariau 1 cilomedr ledled Cymru. Caiff modelau eu datblygu sy'n cyfuno gwybodaeth am ardaloedd Glastir o fewn pob sgwâr yn yr arolwg â data o raglenni monitro arbenigol a gwybodaeth am gyflwr a sensitifrwydd yr amgylchedd, i farnu'r hyn a fydd yn digwydd yn y dyfodol ar raddfa'r dirwedd. Dylai hyn ganiatáu i Lywodraeth Cymru archwilio effaith bosibl gwahanol opsiynau rheoli tir Glastir ac i addasu ei blaenoriaethau o ran Glastir ar sail hynny.
Casglodd yr adroddiad ar y rhaglen dystiolaeth ynghylch pob un o'r pum canlyniad a fwriadwyd gan gynllun Glastir: lliniaru newid yn yr hinsawdd, gwella ansawdd dŵr, atal dirywiad mewn bioamrywiaeth, gwella'r modd y caiff coetir ei reoli, cael rhagor o fynediad at dirwedd Cymru a gwella cyflwr nodweddion hanesyddol.
Mae rhai o brif gyflawniadau'r rhaglen yn ei blwyddyn gyntaf yn cynnwys:
- Cwblhau blwyddyn gyntaf yr arolwg, a oedd yn cynnwys 60 o sgwariau 1 cilomedr ac arolygon cynefinoedd, planhigion, adar a pheillio;
- Datblygu tri model gwahanol i gyflwyno effeithiau posibl chwech o opsiynau o ran rheoli tir Glastir (e.e. cadw sofl dros y gaeaf a rheoli pori mewn cefn gwlad agored) ar raddfa leol a chenedlaethol;
- Asesiad o ffynonellau nwyon tŷ gwydr a dal a storio carbon;
- Creu setiau data 3D sy'n ystyried topograffeg y dirwedd a nodweddion y dirwedd ar raddfa fach;
- Cytunwyd ar brotocolau maes a gweithredwyd arnynt i fapio a chofnodi cynefinoedd coetir.
Mae'r cynlluniau ar gyfer ail flwyddyn y rhaglen yn cynnwys ehangu ardal yr arolwg o 60 o sgwariau i 90 o sgwariau, dadansoddi effeithiau mesurau coetir Glastir ar wasanaethau ecosystemau a bioamrywiaeth a datblygu delweddau tirwedd i ddangos y newidiadau tirwedd ar safleoedd y mae Glastir yn eu targedu ar gyfer y dyfodol.
Yn ychwanegol, bydd gwefan y rhaglen yn cael ei lansio ym mis Ebrill 2015 a fydd yn dangos canlyniadau'r arolwg maes ac allbynnau'r modelau.
Mae canfyddiadau cychwynnol y gwaith modelu yn awgrymu bod effeithiau posibl yr ymyriadau gwahanol yn amrywio rhwng 0.1% a 10% ar raddfa genedlaethol. Fodd bynnag, prif amcan blwyddyn gyntaf y rhaglen oedd creu'r modelau a dangos eu defnydd, a bydd gwaith yn y dyfodol yn rhoi blaenoriaeth i ddadansoddi allbynnau'r modelau.