- Llywodraethu economaidd;
- Y gallu i gystadlu;
- Sofraniaeth;
- Mewnfudo.
Diweddariad diwygio yr UE: beth sydd ym masgedi David Cameron?
Cyhoeddwyd 17/12/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau
17 Rhagfyr 2015
Erthygl gan Robin Wilkinson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Heno, bydd y Cyngor Ewropeaidd (penaethiaid llywodraethau’r Aelod-Wladwriaethau) yn trafod cynigion David Cameron i ddiwygio yr UE. Ni fydd y Cyngor yn dod i gytundeb, ond bydd yn cynnal trafodaeth wleidyddol yn canolbwyntio ar lythyr y Prif Weinidog a gyhoeddwyd ar 10 Tachwedd a’r ymateb gan Arlywydd y Cyngor Ewropeaidd Donald Tusk, a anfonwyd at Benaethiaid Aelod-Wladwriaethau a Llywodraethau’r UE ddydd Llun diwethaf. Pen draw’r daith yw ceisio dod i gytundeb yn y Cyngor Ewropeaidd ar 18-19 Chwefror, gan baratoi’r ffordd i’r Prif Weinidog gyhoeddi manylion Refferendwm arfaethedig yr UE - o bosibl mor gynnar â mis Mehefin, er bod yr hydref yn cael ei ystyried yn gyfnod mwy tebygol.
Bydd diwygiadau arfaethedig y DU yn cael eu trafod yng nghyd-destun yr heriau niferus sy’n wynebu’r UE ar hyn o bryd, megis y bygythiad a’r ymateb diogelwch yn dilyn yr ymosodiadau ar Baris, y cynnydd o ran Undod Economaidd ac Ariannol, ymateb yr UE i fudo a’r argyfwng ffoaduriaid, a chwblhau’r Farchnad Sengl.
[caption id="attachment_3251" align="alignright" width="300"] Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]
Beth sydd ym masgedi’r Prif Weinidog?
Rhoddodd blog gan y Gwasanaeth Ymchwil ym mis Hydref 2015 amlinelliad o’r meysydd lle mae Llywodraeth y DU yn ceisio diwygio’r UE. Mae llythyr diweddar y Prif Weinidog yn ei hanfod yn esboniad pellach o’r themâu hyn, yn hytrach na dull manwl na chynigion cyfreithiol ar gyfer cyflawni’r canlyniadau hyn. I grynhoi, y meysydd hyn - y cyfeiriwyd atynt mewn adroddiadau yn y wasg fel "basgedi" - yw: