Llun o rywun yn pori drwy fil drafft.

Llun o rywun yn pori drwy fil drafft.

Pwyllgor yn y Senedd yn pryderu ynghylch “nifer fawr” y gwallau mewn is-ddeddfwriaeth

Cyhoeddwyd 20/03/2024   |   Amser darllen munudau

Mae is-ddeddfwriaeth yn rheoli rhan helaeth o’n bywyd bob dydd. Gall gwallau arwain at gyfreithiau sy’n aneffeithiol neu anghyson, gyda chanlyniadau yn y byd go iawn i fusnesau a dinasyddion.

Yn ei Adroddiad Blynyddol 2022/23, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2023, mynegodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (‘y Pwyllgor’) bryder ynghylch y ffaith bod “nifer fawr o wallau yn parhau i fod yn is-ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru”, yn ogystal ag amseroldeb gwneud cywiriadau a’r broses ar gyfer hynny.

Mae’r erthygl hon yn ymdrin â mynychder gwallau yn is-ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru, craffu arnynt a’u cywiro.

Beth yw is-ddeddfwriaeth?

Mae deddfwriaeth sylfaenol (Deddfau’r Senedd neu Ddeddfau Senedd y DU) yn aml yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth. Gall hyn gynnwys rheoliadau neu orchmynion. Yn gyffredinol, gadewir i is-ddeddfwriaeth fanylu ynghylch sut y bydd deddfau'n gweithredu.

Er enghraifft, yn ystod Pandemig COVID-19, defnyddiodd Gweinidogion Cymru bwerau amrywiol o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 i wneud rheoliadau. Cafodd y rheoliadau hyn effeithiau sylweddol ar fywydau pobl, er enghraifft trwy gyflwyno gofynion i rywun sy’n cael prawf positif am y coronafeirws ynysu ei hun.

Yn fwy diweddar, mae Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 wedi rhoi pwerau i Weinidogion Cymru osod “targedau hirdymor mewn cysylltiad ag unrhyw fater sy’n ymwneud ag ansawdd aer yng Nghymru”. Ond rheoliadau a fydd yn nodi manylion y targedau hynny, y lefelau a'r amserlenni ar gyfer eu cyrraedd.

Beth yw rôl y Senedd?

Mae gwahanol fathau o is-ddeddfwriaeth yn gallu cael eu gwneud ac mae rôl y Senedd yn amrywio yn dibynnu ar y math o is-ddeddfwriaeth sydd dan sylw. Gallwch ddysgu mwy am y mathau o is-ddeddfwriaeth a rôl y Senedd ar dudalennau deddfwriaeth y Senedd.

Mae’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn chwarae rôl arbennig yn hyn o beth. Mae’n gyfrifol am graffu ac adrodd ar bob darn o is-ddeddfwriaeth, fel y nodir yn y Rheolau Sefydlog (y rheolau ar gyfer cynnal busnes yn y Senedd). Mae'r Pwyllgor yn cyhoeddi adroddiadau ar bob darn ac mae’n gallu codi pwyntiau technegol a phwyntiau rhinweddau. Esbonnir y rhain isod.

Pwyntiau adrodd technegol

Mae Rheol Sefydlog 21.2 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar faterion a allai effeithio ar gyfreithlondeb deddfwriaeth - yr enw am hyn yw pwyntiau adrodd technegol.

Er enghraifft, gallai'r rhain ymwneud ag anghysondebau yn nhestunau Cymraeg a Saesneg y ddeddfwriaeth.

Pwyntiau adrodd o ran rhinweddau

Mae Rheol Sefydlog 21.3 yn caniatáu i’r Pwyllgor gyflwyno adroddiadau ar faterion eraill a allai fod o ddiddordeb i’r Senedd, megis a yw’r ddeddfwriaeth yn cyflawni ei nodau polisi - yr enw am hyn yw pwyntiau adrodd o ran rhinweddau.

Er enghraifft, gallai’r rhain ymwneud â phwyntiau am lefel yr ymgynghori gan Lywodraeth Cymru ar reoliadau.

Pa faterion sydd wedi codi?

Mewn gwaith craffu diweddar, cododd y Pwyllgor y broblem gyson o wallau mewn is-ddeddfwriaeth a wneir gan Lywodraeth Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys anghysondebau o fewn testunau, diffiniadau aneglur, cyfeiriadau anghywir a gwallau teipograffyddol. Mae'r enghreifftiau isod yn rhoi darlun o rai o'r gwallau a godwyd a'r problemau posibl mae’r gwallau hyn yn gallu eu hachosi os nad ydynt yn cael eu cywiro.

Enghraifft 1: Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023

Ym mis Mehefin 2023, gwnaeth Llywodraeth Cymru osod rheoliadau wedi'u diweddaru yn ymwneud â chasglu data ar becynnu a gyflenwir gan gynhyrchwyr. Gwnaeth hynny ar ôl iddi dynnu yn ôl dau o reoliadau drafft a fyddai wedi cynnwys 31 o bwyntiau adrodd technegol,

Mewn un pwynt adrodd technegol yn adroddiad y Pwyllgor ar y rheoliadau, nodwyd bod y gair “data” ar goll o’r cyfieithiad Cymraeg o’r geiriad “cyfnod casglu data”. Roedd hyn yn golygu bod y gyfraith yn Gymraeg yn wahanol i'r gyfraith yn Saesneg.

Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2023 i dri gwall gael eu cywiro, gan gynnwys yr un y cyfeiriwyd ato.

Enghraifft 2: Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio a Swyddogaethau Deddfwriaethol) ac Iechyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2022

Ym mis Tachwedd 2022, gwnaeth Llywodraeth Cymru osod rheoliadau drafft yn ymwneud â mewnforio anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid.

Mae adroddiad y Pwyllgor yn nodi 27 o bwyntiau adrodd technegol, 5 ohonynt yn ymwneud â drafftio diffygiol. Cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar y rheoliadau, mynegodd y Pwyllgor bryder am y gwallau. Ysgrifennodd Huw Irranca-Davies AS, y Cadeirydd, at y Gweinidogion perthnasol, yn datgan y gallai’r rheoliadau “leihau effeithiolrwydd a hygyrchedd y gyfraith a’r gallu i’w gweithredu”.

Er enghraifft, nododd un pwynt adrodd technegol fod y rheoliadau yn cyfeirio at yr “awdurdod priodol”, ond nid ydynt yn cynnwys diffiniad ar gyfer y term hwn. Gallai hyn ei gwneud yn anodd i ddarllenydd ddeall ar bwy y gosodwyd y cyfrifoldebau hyn, a gallai o bosibl gadael y broses o arfer pwerau yn agored i her gyfreithiol.

Dywedodd Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, nad yw’r gwallau a nodwyd gan y Pwyllgor “yn cael effaith sylweddol ar weithrediad y rheoliadau”, a gofynnodd i’r Senedd gymeradwyo’r rheoliadau. Nododd y byddai’r pwerau yn y Rheoliadau i alluogi pwerau gweinyddol a deddfwriaethol newydd i Weinidogion Cymru fel arall yn cael eu colli, oherwydd y ffaith bod pŵer galluogi yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 i fod i gael ei ddiffodd ar 31 Rhagfyr 2022.

Mynegodd y Cadeirydd bryder ynghylch y broses graffu gyflym, a daeth i'r casgliad a ganlyn: “Gofynnir i'r Senedd basio offeryn diffygiol, ac o safbwynt fy mhwyllgor i, mae hynny'n rhyfedd”.

Ymrwymodd Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2023 i gyflwyno deddfwriaeth ddiwygio i unioni dau bwynt a nodwyd, yn ogystal ag ymdrin â phwyntiau craffu llai “wrth wneud y Rheoliadau a’u cyhoeddi”.

Yn sgil hynny, pleidleisiodd y Senedd i gymeradwyo y Rheoliadau.

Ar adeg ysgrifennu'r erthygl hon, nid yw'n glir a yw’r cywiriadau angenrheidiol wedi cael eu gwneud ai peidio.

Enghraifft 3: Gorchymyn Cynlluniau Pensiwn a Chynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Diwygio) (Cymru) 2024

Ym mis Ionawr 2024, gwnaeth Llywodraeth Cymru’r gorchymyn hwn i ddiwygio pensiwn diffoddwyr tân a’u cymhwystra ar gyfer eu digolledu.

Gwnaeth un pwynt adrodd technegol dynnu sylw at y ffaith bod y testunau Saesneg a Chymraeg yn gwrth-ddweud ei gilydd ym mharagraff 6(3) o Atolden 1 oherwydd ystyron croes. O dan y gyfraith yng Nghymru, mae gan y testunau Cymraeg a Saesneg o ddeddfwriaeth statws cyfartal, ond gallai gwall o’r fath orfodi’r sawl sy’n darllen y testun Cymraeg droi at y testun Saesneg am eglurhad.

Dywedodd Llywodraeth Cymru yn y lle cyntaf y byddai’r testun Cymraeg yn cael ei “ddiwygio fel sy’n briodol pan fo’r cyfle nesaf yn codi”. Ym mis Chwefror, dywedodd y byddai offeryn diwygio yn cael ei gyflwyno o fewn “yr 8 i 10 wythnos nesaf”.

Sut caiff is-ddeddfwriaeth ei chywiro?

Fel arfer, mae dwy ffordd o gywiro is-ddeddfwriaeth.

Cyflwyno deddfwriaeth newydd: Gall llywodraeth dynnu deddfwriaeth ddrafft ddiffygiol yn ôl a chyflwyno drafft newydd ohoni yn ei lle. Ar ôl i ddeddfwriaeth gael ei phasio, gall y llywodraeth gyflwyno deddfwriaeth ddiwygio i gywiro gwallau.

Slip cywiro: Yn gyffredinol, mae slipiau yn cael eu defnyddio i gywiro gwallau teipograffyddol, yn hytrach nag anghywirdebau ffeithiol. Maent yn cyd-fynd â'r ddeddfwriaeth berthnasol ar-lein, mewn PDF ac mewn print.

Ym mis Chwefror 2024, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol y byddai slipiau cywiro yn cael eu defnyddio ar gyfer gwallau sy’n fân, technegol, a dibwys, a byddai deddfwriaeth ddiwygio yn cael ei defnyddio lle mae gwall mwy sylweddol. Fodd bynnag, ym mis Ionawr, fe nododd Cadeirydd y Pwyllgor enghraifft o Weinidog yn ceisio defnyddio slipiau cywiro ar gyfer cywiriadau mwy sylweddol.

Ar ôl i gywiriad gael ei wneud

Yn ddiweddar mynegodd Cadeirydd y Pwyllgor bryder ynghylch eglurder a thryloywder y wybodaeth sy’n dod yn ôl i’r Senedd ar ôl i gywiriadau gael eu gwneud, ac ynghylch yr amser a gymerir i wneud cywiriadau.

Ym mis Mawrth 2024, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, o hyn allan, y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu tabl sy’n nodi cywiriadau sydd i'w gwneud “cyn i offerynnau cadarnhaol drafft gael eu gwneud”. Dywedodd hefyd y bydd Llywodraeth Cymru yn hysbysu'r Senedd o gywiriadau yn ystod dadleuon perthnasol.

Mae gwaith olrhain gwallau mewn is-ddeddfwriaeth ac adrodd arnynt yn parhau i fod yn flaenllaw ar agenda'r Pwyllgor.


Erthygl gan Adam Cooke, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru