Adeilad Senedd Cymru

Adeilad Senedd Cymru

Trydedd flwyddyn y rhaglen ddeddfwriaethol: diweddariad ar ymrwymiadau Llywodraeth Cymru

Cyhoeddwyd 24/04/2024   |   Amser darllen munudau

Cymru gryfach, decach a gwyrddach” – dyma oedd amcanion y cyn-Brif Weinidog wrth nodi rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2023. Cyhoeddodd wyth Bil newydd ar gyfer y flwyddyn i ddod, yn ogystal â nodi ymrwymiadau tymor hwy.

Mater i’r Prif Weinidog newydd, Vaughan Gething AS, a'i Gabinet fydd penderfynu a yw'n glynu at raglen ddeddfwriaethol y llywodraeth flaenorol neu'n ei hailflaenoriaethu.

Mae’r erthygl hon yn ystyried y cynnydd a wnaed ar y rhaglen ddeddfwriaethol flaenorol a lle mae pethau ar hyn o bryd.

Ymrwymiadau deddfwriaethol ar gyfer 2023/24

Bil diwygio gwasanaethau bysiau

Roedd datganiad y Prif Weinidog blaenorol yn cynnwys ymrwymiadau ar gyfer Bil i ddiwygio’r system aflwyddiannus o ddadreoleiddio gwasanaethau bysiau.

Ym mis Chwefror 2024, cadarnhaodd fod y Bil “ar gamau olaf ei baratoad”. Bydd yn cyflwyno “system trafnidiaeth fysiau wedi'i chynllunio, wedi'i chytuno, sefydlog ac wedi'i sybsideiddio”, gan sicrhau bod cyllid yn cael ei ddarparu ar gyfer llwybrau sy’n “angenrheidiol yn gymdeithasol”.

Ym mis Mawrth 2024, nododd Llywodraeth Cymru ragor o wybodaeth am ei dull o ddiwygio gwasanaethau bysiau.

Ymddengys y bydd y diwygio yn mynd rhagddo; roedd maniffesto arweinyddiaeth Vaughan Gething AS yn cynnwys ymrwymiad i “[b]asio deddfwriaeth i reoleiddio'r rhwydwaith bysiau cyn diwedd tymor y Senedd hon”.

Bil diogelwch tomenni glo

Dywedodd y Prif Weinidog ar y pryd y bydd Bil yn cael ei gyflwyno “i sefydlu awdurdod goruchwylio newydd a threfn reoli ar gyfer diogelwch tomenni yng Nghymru”. Bydd y Bil hwn yn berthnasol i domenni glo. Fodd bynnag, roedd y papur gwyn hefyd yn gofyn am farn ynghylch a ddylid cynnwys tomenni heb lo. Y bwriad yw i’r Bil gael ei gyflwyno yn hydref 2024.

Roedd gweithredu ar domenni hefyd yn ymrwymiad yn natganiad deddfwriaethol 2022.

Diwygio gofal cymdeithasol

Roedd y datganiad yn cynnwys ymrwymiadau ar gyfer deddfwriaeth i wneud diwygiadau i ofal cymdeithasol, gan gynnwys:

  • dileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal;
  • cyflwyno taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus; a
  • gwneud diwygiadau i “helpu wrth reoleiddio a chynorthwyo gweithrediad effeithiol y gweithlu gofal cymdeithasol”.

Er mwyn cefnogi gwaith i ddileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Bwrdd Rhaglen aml-asiantaeth. Ym mis Mawrth, dywedodd y cyn-Brif Weinidog y byddai Bil yn cael ei gyflwyno “yn fuan ar ôl y Pasg”, fodd bynnag, gohiriwyd hyn yn ddiweddar hyd at fis Mai.

Bil Addysg Gymraeg

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bapur gwyn ar ddiwygiadau i addysg Gymraeg. Mae’r cynigion yn cynnwys adlewyrchu’r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg yn y gyfraith, creu un continwwm sgiliau Cymraeg, a gwella’r ddarpariaeth Gymraeg mewn ysgolion nad ydynt wedi’u dynodi’n ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Ym mis Chwefror 2024, cadarnhaodd Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ar y pryd, ei “[f]wriad i fwrw ati i gyflwyno Bil a fydd yn mynd i’r afael â’r amcanion polisi a amlinellwyd yn y Papur Gwyn”, gan nodi y byddai’r Bil yn cael ei gyflwyno “cyn toriad yr Haf eleni”.

Diwygio Etholiadol a Diwygio’r Senedd

Roedd datganiad y Prif Weinidog blaenorol yn cynnwys sawl ymrwymiad yn ymwneud â diwygio etholiadol.

Ym mis Hydref 2023, cyflwynwyd y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) i’r Senedd. Os cytunir arno, bydd y Bil yn cyflwyno cofrestru etholiadol heb gais ac yn creu gofyniad am lwyfan pleidleiswyr i gynnal gwybodaeth ymgeiswyr, ymhlith newidiadau eraill. Mae ein tudalen ar adnoddau Bil yn cynnwys ein crynodeb o’r Bil ac erthyglau ar gynnydd y Bil.

Cafodd egwyddorion cyffredinol y Bil eu cytuno ym mis Chwefror 2024, ac mae’n mynd drwy drafodion Cyfnod 2 ar hyn o bryd.

Roedd y datganiad hefyd yn cynnwys ymrwymiad i gyflwyno Bil i:

[g]reu Senedd fodern, sy'n adlewyrchu ehangder y cyfrifoldebau datganoledig a'r Gymru yr ydym ni'n byw ynddi heddiw.

Cafodd Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) ei gyflwyno ym mis Medi 2023. Os cytunir arno, bydd y Bil yn gwneud newidiadau, gan gynnwys cynyddu maint y Senedd i 96 o Aelodau a chyflwyno system bleidleisio Rhestr Gaeedig. Darllenwch ein crynodeb o’r Bil yma.

Mae’r Bil yng Nghyfnod 3 ar hyn o bryd; cafodd egwyddorion cyffredinol y Bil eu cytuno ym mis Ionawr 2024, a chynhaliwyd Trafodion Cyfnod 2 ar 5 a 6 Mawrth 2024.

Cyhoeddodd y Prif Weinidog hefyd “[F]il i gyflwyno cwotâu rhywedd ar gyfer ymgeiswyr a etholwyd i'r Senedd hon”. Yn dilyn oedi, cafodd y Bil ei gyflwyno ar 11 Mawrth 2024 ac mae yng Nghyfnod 1 ar hyn o bryd.

Mae ein herthygl yn trafod y Bil yn fwy manwl.

Y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru)

Yn dilyn ymrwymiad i ddiwygio'r cylchoedd ailbrisio ar gyfer y dreth gyngor ac ardrethi annomestig, cafodd y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) ei gyflwyno ym mis Tachwedd 2023. Mae'r Bil yng Nghyfnod 2 ar hyn o bryd, gyda’i egwyddorion cyffredinol wedi’u cytuno gan y Senedd ym mis Ebrill 2024.

Ymrwymiadau tymor hwy

Roedd datganiad y Prif Weinidog blaenorol hefyd yn cyfeirio at ymrwymiadau deddfwriaethol tymor hwy Llywodraeth Cymru.

Yr economi ymwelwyr

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno Bil i roi pwerau i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr, ac un arall i gyflwyno cynllun trwyddedu a chofrestru ar gyfer llety ymwelwyr.

Er ei fod yn rhagweld y bydd y ddau Fil yn cael eu cyflwyno erbyn diwedd 2024, mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif mai’r “cynharaf y gallai ardoll ymwelwyr fod ar waith mewn unrhyw ran o Gymru yw 2027”, ac y bydd cynllun trwyddedu a chofrestru wedi’i weithredu erbyn 2026.

Yr amgylchedd

Ymrwymodd y Prif Weinidog blaenorol i sefydlu “corff llywodraethu amgylcheddol i Gymru a chyflwyno dyletswydd a nodau statudol i amddiffyn ac adfer bioamrywiaeth”. Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n ymgynghori ar bapur gwyn ar gynigion.

Roedd maniffesto arweinyddiaeth Vaughan Gething AS yn cynnwys ymrwymiadau i osod “targedau statudol cryf ar gyfer diogelu ac adfer natur” ac i greu “corff llywodraethu amgylcheddol sy'n gweithredu'n llawn”.

Mae'r maniffesto hefyd yn ymrwymo i Fil Natur Bositif newydd, i'w ddatblygu ochr yn ochr â'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Am ragor o wybodaeth, gweler ein herthygl ar drefniadau llywodraethu amgylcheddol a'n briff ar fioamrywiaeth yng Nghymru.

Gwasanaethau digartrefedd

Roedd y datganiad yn cynnwys ymrwymiad i ddiwygio gwasanaethau digartrefedd. Daeth yr ymgynghoriad papur gwyn ar gynigion Llywodraeth Cymru i ben ym mis Ionawr 2024.

Ym mis Mawrth 2024 dywedodd Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd ar y pryd, y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil cyn diwedd tymor y Senedd.

Diogelwch adeiladau

Fel rhan o gynlluniau i “ail-lunio'r system ar gyfer diogelwch adeiladau”, sefydlodd Llywodraeth Cymru Raglen Diogelwch Adeiladau Cymru, a chadarnhaodd y bydd y Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) yn cael ei gyflwyno yn ystod tymor y Senedd hon.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi gwneud rheoliadau o dan Ddeddf Diogelwch Adeiladau’r DU.

Y sector tacsis a cherbydau hurio preifat

Roedd Llywodraeth flaenorol Cymru yn rhagweld y bydd deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno ar ddiwedd tymor y Senedd hon i foderneiddio’r sector tacsis a cherbydau hurio preifat. Daeth ymgynghoriad papur gwyn ar y mater i ben ym mis Mehefin 2023.

System dribiwnlysoedd Cymru

Daeth ymgynghoriad ar bapur gwyn Llywodraeth Cymru, System Dribiwnlys Newydd i Gymru, i ben ym mis Hydref 2023.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn bwriadu datblygu deddfwriaeth yn ystod tymor y Senedd hon, ond ni roddodd amserlen benodol.

Biliau cydgrynhoi

Ymrwymodd y datganiad i gyflwyno biliau cydgrynhoi yn ystod tymor y Senedd, gan gynnwys ar gynllunio ac un arall ar ddiddymu deddfwriaeth angenrheidiol.

Daeth yr ymgynghoriad papur gwyn ar y Bil Cyfraith Statud (Diddymiadau) (Cymru) i ben ym mis Ionawr 2023, gyda bil i’w gyflwyno “maes o law”.

Cyhoeddodd y Cwnsler Cyffredinol y bydd bil cynllunio yn cael ei gyflwyno i’r Senedd yn ystod haf 2024.

Prif Weinidog newydd, blaenoriaethau newydd?

Yn ddiweddar, nododd y Prif Weinidog newydd ei uchelgais i ganolbwyntio ar gyfres o flaenoriaethau craidd i gyflawni’r newid cadarnhaol, blaengar y mae am ei weld.

Bydd yn nodi ei ddatganiad deddfwriaethol cyntaf cyn toriad yr haf. Bydd hyn yn rhoi syniad cliriach o'i gynlluniau, ac a oes unrhyw wahaniaethau i'r rhaglen ddeddfwriaethol a nodwyd gan ei ragflaenydd.


Erthygl gan Adam Cooke, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru