Y Rhaglen Lywodraethu: Pwyso a mesur hanner ffordd drwy'r Chweched Senedd

Cyhoeddwyd 29/09/2023   |   Amser darllen munudau

Porwch drwy ein cyfres #RhaglenLywodraethu lawn.

Dros y tair wythnos diwethaf, rydym wedi bod yn ystyried i ba raddau y mae Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i roi ei Rhaglen Lywodraethu ar waith. Mae hyn wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei hadroddiad blynyddol ar y Raglen Lywodraethu  ym mis Gorffennaf. Rydym wedi cyhoeddi erthyglau’n  ymdrin â’r 10 o amcanion llesiant sy’n sail i’r Rhaglen Lywodraethu.

Ar y dudalen hon, cewch hyd i’r holl erthyglau rydym wedi’u cyhoeddi. Gallwch hefyd ddysgu am yr amcanion drwy ddefnyddio’r offeryn rhyngweithiol ar waelod y dudalen (ac ym mhob erthygl).

Mae ein herthyglau'n crynhoi'r hyn sydd wedi digwydd hyd yn hyn yn y Senedd hon. Er nad oedd yn bosibl trafod pob un o'r ymrwymiadau sy’n sail i’r 10 o amcanion llesiant, rydym wedi edrych ar flaenoriaethau ac amcanion datganedig Llywodraeth Cymru, wedi trafod y themâu a'r cyd-destun ehangach, gan obeithio gosod y llwyfan ar gyfer y ddwy flynedd a hanner sy'n weddill tan etholiad disgwyliedig nesaf y Senedd.

Cyfres y Rhaglen Lywodraethu:

I weld rhagor o erthyglau’n ymwneud â’r Senedd a Llywodraeth Cymru, tanysgrifiwch ag Ymchwil y Senedd.

Dysgwch am y Rhaglen Lywodraethu, ei hamcanion a’i hymrwyiadau


Erthygl gan Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru