Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25

Cyhoeddwyd 24/07/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/04/2024   |   Amser darllen munudau

Cyllideb Ddrafft   |   Cyllideb Derfynol

Diagram rhyngweithiol i archwilio Cyllideb Ddrafft

Llinell Amser Cyllideb Llywodraeth Cymru 2024-25

Mehefin 2023 – Pwyllgor Cyllid

Digwyddiad i randdeiliad cyn y Gyllideb Ddrafft yn Wrecsam

Mehefin/Gorffennaf 2023 – Pwyllgor Cyllid

Ymgysylltu pellach â dinasyddion a Senedd Ieuenctid Cymru

12 Gorffennaf 2023 – Dadl y Pwyllgor Cyllid yn y Cyfarfod Llawn

Dadl y Pwyllgor Cyllid yn y Cyfarfod Llawn ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru

Medi 2023 – Galwad agored am dystiolaeth gan y Pwyllgor Cyllid

Bydd y Pwyllgor Cyllid yn cynnal ymgynghoriad i lywio gwaith craffu diweddarach ar y Gyllideb Ddrafft ym mhwyllgorau’r Senedd

22 Tachwedd 2023 - Datganiad hydref y DU

19 Rhagfyr 2023 - Cyllideb ddrafft amlinellol a manwl

Cyhoeddi cyllideb ddrafft amlinellol a manwl yn dangos cynlluniau ariannu, gwariant a threthi. Pwyllgorau polisi a Chyllid yn craffu arni.

5 Chwefror 2024 – Dyddiad cau i’r holl bwyllgorau ar gyfer cyflwyno adroddiad

6 Chwefror 2024 – Dadl ar y Gyllideb Ddrafft yn y Cyfarfod Llawn

27 Chwefror 2024 – Cyhoeddi’r Gyllideb Derfynol

5 Mawrth 2024 – Dadl ar y Gyllideb Derfynol