Cynllun Gweithredu Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru – cyhoeddi Adolygiad Canol Blwyddyn

16 Chwefror 2016

Erthygl gan Rachel Prior, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Llun buwch

Llun o Flickr gan Ian Britton. Trwyddedwyd o dan Creative Commons

Cyhoeddwyd y Cynllun Gweithredu Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid cyntaf ar 17 Gorffennaf 2015. Mae’r Cynllun yn nodi amcanion y Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid a Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16. Gallwch ddarllen mwy am y Cynllun Gweithredu ei hun yn ein blog-bost blaenorol: Cyhoeddi’r Cynllun Gweithredu Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid cyntaf.

Cafodd adolygiad canol blwyddyn yn asesu’r cynnydd a wnaed tuag at y nodau a nodir yn y Cynllun Gweithredu gwreiddiol ei gyhoeddi ar 28 Ionawr 2016, ynghyd â datganiad gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans. Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn ar yr adolygiad yma: Adolygiad Canol Blwyddyn o’r Cynllun Gweithredu Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid.

Mae’r adroddiad wedi’i rannu yn ddwy adran – blaenoriaethau ar gyfer y Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid, a blaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth Cymru. Yn y blog-bost hwn, byddwn yn edrych ar ba gynnydd sydd wedi’i wneud ar rai o’r prif flaenoriaethau ym mhob adran.

Blaenoriaethau Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru

Yn y Cynllun Gweithredu gwreiddiol, bioddiogelwch oedd un o brif flaenoriaethau’r Grŵp, a’r brif strategaeth oedd codi ymwybyddiaeth o’r risgiau o ran bioddiogelwch gwael fel cynnydd mewn clefydau yn lledu. Mae’r Grŵp hefyd am weld hyrwyddo’r Llawlyfr i Ddiogelu Iechyd eich Gwartheg. Cyhoeddwyd y llawlyfr ym mis Mai 2015 ac yn ôl yr adolygiad canol blwyddyn mae mwy na 1,000 o gopïau wedi cael eu dosbarthu. Bydd y Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio newydd hefyd yn cynnwys cynllunio iechyd ffermydd fel elfen graidd.

Yn ei waith yn erbyn ymwrthedd gwrthficrobaidd, mae’r Grŵp wedi cefnogi Strategaeth Ymwrthedd Gwrthficrobaidd Pum Mlynedd y DU trwy godi ymwybyddiaeth drwy’r Gwasanaeth Cyswllt Ffermio. Mae hyn hefyd yn gysylltiedig â hyrwyddo bioddiogelwch a lleihau’r defnydd rheolaidd o wrthfiotigau.

Trydedd flaenoriaeth ar gyfer y Grŵp oedd rheoli Ysgothi Firol Buchol (BVD), a rhan ganolog o hyn oedd cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb ar gyfer sicrhau cyllid Cynllun Datblygu Gwledig Cymru i drechu’r clefyd. Cyflwynwyd y Datganiad o Ddiddordeb ym mis Hydref 2015, ac fe’i cymeradwywyd ym mis Rhagfyr.

Mae gwaith y Grŵp wrth ymgysylltu â’r sector lles anifeiliaid wedi caniatáu iddo gwrdd ddwywaith gyda Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru yn ogystal â chynnal adolygiad o fwriad polisi y Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Coleri Trydan) (Cymru) 2010.

Rhan bwysig arall yn y Cynllun oedd i wella’r wybodaeth waelodlin sydd ar gael ar nifer yr achosion o’r clafr yng Nghymru, er mwyn nodi rhai meysydd lle y gallai fod angen mwy o gymorth nag eraill. Roedd hyn wedi caniatáu i’r Grŵp gyfrannu at ailwerthusiad o’r argymhellion a wnaed gan adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Clafr ar ddileu’r clefyd.

Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.

Nododd Llywodraeth Cymru TB mewn gwartheg fel blaenoriaeth allweddol ar gyfer y flwyddyn hon, a rhan fawr o hynny oedd cynnal gweithredu’r rhaglen pum mlynedd o frechu moch daear yn ei phedwaredd flwyddyn, gyda chanlyniadau i ddod yn ystod haf 2016. Fodd bynnag, ym mis Rhagfyr 2015, cafodd y cynllun brechu moch daear ei atal oherwydd prinder byd-eang o’r brechlyn a blaenoriaethu’r adnoddau oedd yn weddill at ddefnydd pobl.

Disgrifiodd datganiad gan y Dirprwy Weinidog ym mis Chwefror 2016 ganlyniad modelu a gynhaliwyd gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion oedd yn awgrymu “nid yw bwlch o flwyddyn ar ôl blwyddyn pedwar a dychwelyd i frechu ym mlwyddyn 6 yn wahanol i frechu am 5 mlynedd [olynol]”.

Roedd Llywodraeth Cymru yn anelu at gefnogi Arolygwyr Gwenyn yng Nghymru mewn ymateb i bryderon am iechyd gwenyn. Mae saith gweithdy wedi cael eu cynnal dros y flwyddyn ddiwethaf gan yr Arolygydd Gwenyn Rhanbarthol â’r nod o addysgu hwsmonaeth dda ac adnabod a rheoli clefydau allweddol. Mae ymarferion cynllunio wrth gefn hefyd wedi cael eu cynnal ar gyfer cyrchoedd Cacwn Asiaidd a Chwilod Bach Cychod Gwenyn.

Trydedd flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru oedd Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (BSE), ac un nod oedd diwygio deddfwriaeth ar BSE yng Nghymru yn ôl rheolau newydd yr UE. Mae’r rheoliadau newydd yn cael eu drafftio ar hyn o bryd. Ers i’r Cynllun Gweithredu gael ei gyhoeddi, mae un achos ynysig o BSE wedi cael ei adrodd mewn buwch unigol ar fferm Gymreig, ac fe wnaeth y Dirprwy Weinidog ddatganiad ar y mater ar y pryd.

Mae cynllunio wrth gefn yn rhan bwysig o gynnal bioddiogelwch, ac mae adolygiad o Gynllun Wrth Gefn Llywodraeth Cymru y Ymdrin â Chlefydau Anifeiliaid Egsotig ar waith, fydd yn cael ei ailgyhoeddi ym mis Mawrth 2016. Cynhaliwyd ymarfer cynllunio wrth gefn traws ffiniol hefyd ym mis Ionawr 2016 i ystyried achos o ffliw adar.

Mae’r gwaith ers cyhoeddi’r Cynllun Gweithredu ar berchnogaeth cŵn gyfrifol wedi cynnwys dwyn i rym y Rheoliadau Gorfodi gosod Microsglodion ar Gŵn ar Ebrill 6 2016.

Roedd lles anifeiliaid ar adeg eu lladd yn flaenoriaeth arall i Lywodraeth Cymru, gyda’r nod o greu Tasglu neu Weithgor Lles ar adeg Lladd. Gwnaeth y Dirprwy Weinidog ddatganiad ym mis Hydref 2015 yn nodi ei barn y dylai teledu cylch cyfyng gael ei osod ym mhob lladd-dy yng Nghymru, a chyhoeddodd cyfarfod cyntaf y grŵp hwn, fydd yn digwydd yn gynnar yn 2016.

Yn olaf, bydd y gwaith ar y Prosiect Gwaharddiad Symud Chwech Niwrnod yn galluogi gweithredu Unedau Cwarantin yng Nghymru erbyn Rhagfyr 2016. Mae ymgynghoriad sy’n cael ei gynnal ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru ar gyflwyno Unedau Cwarantin yn nodi’r newidiadau arfaethedig i’r rheolau gwaharddiad symud, a fydd yn caniatáu ar gyfer unedau ynysig arbennig y gellir eu defnyddio i gynnwys da byw sydd newydd gyrraedd fferm am chwe niwrnod, yn hytrach na bod y fferm gyfan yn destun y gwaharddiad symud chwe niwrnod. Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad yw 12 Chwefror 2016.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ymgynghori ar newidiadau i’r dosbarthiadau Rhif y Daliad (CPH), a allai olygu y gallai nifer o CPH sy’n berchen i un ffermwr, neu lle mae’r un ffermwr sy’n denant ynddynt, gael eu cyfuno i mewn i un uned weinyddol, os ydynt i gyd o fewn 10 milltir i’r lleoliad cynhyrchu sylfaenol. Byddai’r newidiadau hyn yn golygu na fyddai’n rhaid i ffermwyr roi gwybod i’r awdurdodau er mwyn symud da byw rhwng darnau o dir sy’n perthyn i un fferm, ar yr amod eu bod yn ddigon agos at ei gilydd. Byddai hefyd yn golygu, pe byddai da byw yn cael eu symud i un rhan o’r daliad, byddai’r gwaharddiad symud yn berthnasol i bob lleoliad o fewn y daliad. Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad hwn oedd 19 Ionawr 2016.

View this post in English

Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg