Amaethyddiaeth, Coedwigaeth a Bwyd Gadael yr Undeb Ewropeaidd Gofal Cymdeithasol Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG Trafnidiaeth

Paratoi ar gyfer Brexit

Deufis cyn i’r DU ymadael â'r UE, bydd y Cynulliad yn trafod adroddiadau'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ('y Pwyllgor'), sef Paratoi ar gyfer Brexit - edrych ar sectorau allweddol, ddydd Mawrth 29 Ionawr. Cyhoeddodd y Pwyllgor dri adroddiad ar ddiwedd 2018, gan ganolbwyntio ar borthladdoedd; gofal iechyd a meddyginiaethau; a'r sector bwyd a diod. Mae'r rhain yn adeiladu ar adroddiad blaenorol y Pwyllgor ar baratoadau Llywodraeth Cymru ar gyfer Brexit, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2018.

28 Ionawr 2019

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Deufis cyn i’r DU ymadael â’r UE, bydd y Cynulliad yn trafod adroddiadau’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol (‘y Pwyllgor’), sef Paratoi ar gyfer Brexit – edrych ar sectorau allweddol, ddydd Mawrth 29 Ionawr. Cyhoeddodd y Pwyllgor dri adroddiad ar ddiwedd 2018, gan ganolbwyntio ar borthladdoedd; gofal iechyd a meddyginiaethau; a’r sector bwyd a diod. Mae’r rhain yn adeiladu ar adroddiad blaenorol y Pwyllgor ar baratoadau Llywodraeth Cymru ar gyfer Brexit, (PDF, 744KB) a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2018.

Parodrwydd porthladdoedd Cymru

Yn dilyn ymchwiliad y Pwyllgor yn 2017 i oblygiadau Brexit i borthladdoedd morol Cymru, gwnaeth yr adroddiad dilynol hwn ar barodrwydd porthladdoedd Cymru drafod y goblygiadau i Faes Awyr Caerdydd yn ogystal â’r materion sy’n effeithio ar borthladdoedd morol a chludo nwyddau.

Mae gan yr UE rôl allweddol yn nhrafnidiaeth awyr, trafnidiaeth forwrol a thrafnidiaeth ar y ffyrdd. Fodd bynnag, mae i ba raddau y mae cyfraith ryngwladol ehangach yn cynnig datrysiad wrth gefn ar ôl Brexit ar gyfer y dulliau hyn o drafnidiaeth yn amrywio.  Er bod y sector morwrol wedi’i rhyddfrydoli i raddau helaeth ar lefel fyd-eang, mae cyfraith ryngwladol yn cynnig nifer fwy cyfyngedig o ddewisiadau amgen ar gyfer cludiant ar y ffyrdd a hedfanaeth (gweler ein blog diweddar Y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y Dyfodol: Trafnidiaeth).

Mae’r datganiad gwleidyddol a gyhoeddwyd ar 22 Tachwedd 2018 yn cyfeirio at hedfanaeth a thrafnidiaeth ar y ffyrdd, y rheilffyrdd a’r môr – gan gynnwys ymrwymiad i gytundeb cynhwysfawr ynghylch hedfanaeth a mesurau i hwyluso llif pobl a nwyddau. 

Fodd bynnag, er gwaethaf canllawiau i ymadawiad heb gytundeb a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn yr hydref 2018, yn ogystal â chynlluniau wrth gefn a gyhoeddwyd gan yr UE a Llywodraeth Iwerddon, mae effaith Brexit heb gytundeb ar borthladdoedd Cymru a’u defnyddwyr yn parhau’n ansicr.

Roedd saith argymhelliad y Pwyllgor yn mynd i’r afael â materion allweddol mewn perthynas â:

Er bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr holl argymhellion yn ei hymateb i’r adroddiad, gwnaethpwyd y sylwadau a ganlyn ar yr argymhelliad cyntaf, sef cyhoeddi ei chynllun wrth gefn mewn perthynas â phriffyrdd a phorthladdoedd:

Ni fyddai’n briodol cyhoeddi opsiynau ar gyfer rheoli traffig yn ymwneud â Chaergybi ar hyn o bryd o ystyried y sensitifrwydd masnachol posibl.

Nid yw’r ymateb yn esbonio pam fod opsiynau o ran rheoli traffig yn fasnachol sensitif – yn enwedig o ystyried bod rhai manylion gweithredol nad oeddent wedi’u cynnwys yn ymateb y Llywodraeth wedi ymddangos yn y cyfryngau cyn i’r ymateb ddod i law.  Fodd bynnag, yn ei ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn ar 22 Ionawr ar oblygiadau Brexit heb gytundeb i drafnidiaeth, trafododd y Gweinidog dros yr Economi a’r Seilwaith drefniadau cynllunio ar gyfer porthladdoedd, gan roi rhagor o fanylion.

Parodrwydd y sector gofal iechyd a meddyginiaethau

Yn ystod yr ymchwiliad cychwynnol i baratoi ar gyfer Brexit, clywodd y Pwyllgor lawer o bryderon ynghylch effaith Brexit ar y sector gofal iechyd a meddyginiaethau a’r angen am arweiniad cryfach gan Lywodraeth Cymru ynghylch sut y dylai’r sector fod yn paratoi.

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei waith dilynol ar barodrwydd y sector gofal iechyd a meddyginiaethau yng Nghymru (PDF, 275KB) ar 3 Rhagfyr 2018.

Roedd argymhellion y Pwyllgor yn ymdrin â’r materion a ganlyn:

  • Cyfathrebu â’r sector – galwodd y Pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i roi sicrwydd y bydd pob lefel o’r sector iechyd a gofal cymdeithasol yn cael gwybod am y risgiau a’r paratoadau sy’n gysylltiedig â Brexit cyn y diwrnod ymadael.
  • Cyflenwad meddyginiaethau – gofynnodd y Pwyllgor i Lywodraeth Cymru amlinellu manylion ei thrafodaethau â Llywodraeth y DU ar gydlynu paratoadau ar gyfer Brexit a’r gwaith sy’n cael ei wneud i sicrhau bod digon o gapasiti i fodloni unrhyw ofynion posibl o ran casglu cyflenwadau ynghyd. 
  • Cydnabyddiaeth gyffredin o safonau a threfniadau cyfatebol – gwnaeth y Pwyllgor ddau argymhelliad, un yn gofyn i Lywodraeth Cymru amlinellu sut y mae’n annog Llywodraeth y DU i sicrhau cydweithrediad rheoleiddiol rhwng y DU a’r UE o ran mynediad at feddyginiaethau a gwaith ymchwil clinigol ar ôl Brexit, a’r ail yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau mynediad parhaus at radioisotopau meddygol ar ôl Brexit.
  • Y gweithlu – gofynnodd y Pwyllgor i Lywodraeth Cymru amlinellu manylion ei hamserlenni ar gyfer cwblhau ei gwaith ymchwil ar oblygiadau Brexit i’r sector gofal cymdeithasol, gan gynnwys sut y mae’n bwriadu sicrhau y gellir trafod canfyddiadau’r gwaith hwn. Hefyd, gofynnodd y Pwyllgor i Lywodraeth Cymru roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei chynlluniau ar gyfer recriwtio a chadw staff iechyd a gofal cymdeithasol ar ôl Brexit.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru bum argymhelliad y Pwyllgor (PDF 529KB), gan nodi:

  • Cyfathrebu â’r sector – mae Prif Weithredwr y GIG yng Nghymru a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru yn ysgrifennu at brif weithredwyr a chyfarwyddwyr gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar draws yr awdurdodau lleol yn ôl yr angen i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am ddatblygiadau ac i dynnu eu sylw at gamau sydd angen eu cymryd mewn meysydd penodol wrth baratoi ar gyfer Brexit. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio gyda sefydliadau sy’n cynrychioli rhanddeiliaid i helpu i sicrhau bod dull cyfathrebu clir a chydlynol yn cael ei ddefnyddio, gan gynnwys drwy’r pedwar prif grŵp rhanddeiliad. 
  • Cyflenwad meddyginiaethau – bydd Cymru’n rhan o gynllun y DU i sicrhau bod cyflenwad meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol yn parhau. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu’n rheolaidd ag Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y DU ‘i adolygu cynnydd ac asesu digonolrwydd y trefniadau’. Ar hyn o bryd, nid yw’n cynghori darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru i gasglu ynghyd cyflenwad o feddyginiaethau a dyfeisiau meddygol.
  • Cydnabyddiaeth gyffredin o safonau a threfniadau cyfatebol –  amlinellodd Llywodraeth Cymru y mesurau deddfwriaethol sydd ar waith i sicrhau mynediad at hawliau gofal iechyd cyfatebol yn ogystal â pharhau i gydweithio ar reoleiddio rhwng y DU a’r UE ar ôl Brexit. O safbwynt mynediad at radioisotopau, mae Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â Llywodraeth y DU, ac mae trafodaethau’n parhau.
  • Y gweithlu – mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu gwaith ymchwil ar y gweithlu gofal cymdeithasol a gofal plant i ddeall cyfraniad gweithwyr yr UE nad ydynt yn dod o’r DU a nodi unrhyw wendidau a allai fodoli os caiff polisi mudo Llywodraeth y DU effaith negyddol ar recriwtio a chadw gweithwyr yr UE ar ôl ymadael â’r UE. Caiff y gwaith hwn ei gyhoeddi ym mis Mawrth. Mae cynlluniau hefyd yn yr arfaeth ar gyfer ymgyrch recriwtio a chadw.

Mae datganiad y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Iechyd yn y Cyfarfod Llawn ar 22 Ionawr yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i liniaru rhai o ‘risgiau sylweddol ac amlwg’ ymadael heb gytundeb.

Parodrwydd y sector bwyd a diod

Y sector bwyd a diod yw un o’r sectorau mwyaf integredig ledled yr UE, gyda chadwyni cyflenwi sy’n ymestyn dros y Farchnad Sengl (yn aml ar sail cyflenwi mewn union bryd), symudiad rhydd llafur a safonau rheoliadol sydd wedi’u halinio. Mae’r trefniadau presennol ar gyfer masnach rydd rhwng y DU a’r UE yn arbennig o bwysig ar gyfer allforwyr cig oen oherwydd caiff bron i draean o gig oen Cymru ei allforio i’r UE.

Mae nifer o gynhyrchwyr o Gymru hefyd yn rhan o Gynllun Enwau Bwyd a Warchodir gan yr UE (hynny yw, dynodiadau daearyddol). Fodd bynnag mae Llywodraeth y DU yn gweithio i greu cynllun dynodiadau daearyddol newydd o fewn y DU ar ôl Brexit (gweler ein blog ar enwau bwyd a warchodir).

Gwnaeth y Pwyllgor dri argymhelliad (PDF 185KB):

  • Strategaeth Bwyd a Diod ar ôl Brexit – Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n diweddaru ei strategaeth ar hyn o bryd ac argymhellodd y Pwyllgor y dylai’r strategaeth newydd hyrwyddo mwy o allforion o Gymru i wledydd nad ydynt yn rhan o’r UE.
  • Dynodiadau Daearyddol – Gofynnodd y Pwyllgor i Lywodraeth Cymru amlinellu ei thrafodaethau â Llywodraeth y DU ar sefydlu cynllun newydd yn y DU ar ôl Brexit, gan ofyn hefyd a oedd Llywodraeth Cymru wedi mynegi pryderon ynghylch cyfnod amser cyfyngedig yr ymgynghoriad (o 4 Hydref i 1 Tachwedd).
  • Lliniaru effeithiau Brexit heb gytundeb ar unrhyw gyflenwadau bwydGofynnodd y Pwyllgor i Lywodraeth Cymru amlinellu manylion y gwaith sydd ar y gweill i gefnogi busnesau i liniaru effeithiau Brexit heb gytundeb ar gyflenwadau bwyd.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhellion (PDF 214KB), gan nodi:

  • Strategaeth Bwyd a Diod ar ôl Brexit – Bydd y dull newydd yn cynnwys cefnogaeth i allforwyr a bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i lobïo Llywodraeth y DU ynghylch y canlyniad mwyaf manteisiol i Gymru mewn trafodaethau masnach.
  • Dynodiadau daearyddol – Gweithiodd Llywodraeth Cymru gyda Llywodraeth y DU i ddatblygu a hyrwyddo’r ymgynghoriad ar gynllun dynodiadau daearyddol newydd y DU ac nid oes ganddi bryderon ynghylch yr amserlenni perthnasol. Mae Llywodraeth Cymru ‘yn weddol hyderus’ y bydd cynhyrchion o Gymru sydd â statws dynodiad daearyddol yr UE yn gallu cadw’r statws hwn ar ôl Brexit.
  • Lliniaru effeithiau Brexit heb gytundeb ar gyflenwadau bwyd – Mae manwerthwyr mawr yn hyderus y gallant gynnal cyflenwadau bwyd yn achos Brexit heb gytundeb, ‘er efallai y bydd dewis o rai cynhyrchion ffres yn fwy cyfyngedig nag arfer am gyfnod’. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i bwysleisio pwysigrwydd gwirio mewnforion mewn porthladdoedd a logisteg cludo nwyddau ar y ffyrdd yn y DU yng nghyd-destun cyflenwad bwyd i Gymru. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi lansio nifer o fentrau i gefnogi busnesau.

Yn natganiad y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn y Cyfarfod Llawn ar 22 Ionawr ar oblygiadau Brexit heb gytundeb ar ei phortffolio, rhoddir rhagor o wybodaeth am waith Llywodraeth Cymru yn y maes hwn.


Erthygl gan Andrew Minnis, Manon George ac Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru