Llun o fam gyda'i mab, yn cyfri’r darnau arian olaf yn ei phwrs.

Llun o fam gyda'i mab, yn cyfri’r darnau arian olaf yn ei phwrs.

Pa mor effeithiol yw Llywodraeth Cymru o ran mynd i'r afael â thlodi plant?

Cyhoeddwyd 09/01/2024   |   Amser darllen munudau

Mae byw mewn tlodi’n effeithio ar gyfleoedd bywyd plant, ar eu cyrhaeddiad addysgol, ar eu hiechyd ac ar eu rhagolygon gwaith yn y dyfodol.

Oherwydd hyn, mae lleihau tlodi plant wedi bod yn un o amcanion hirsefydlog llywodraethau Cymru. Fodd bynnag, er iddynt ostwng ym mlynyddoedd cynnar datganoli, mae cyfraddau tlodi plant wedi amrywio ers hynny.

Mae ein herthygl ym mis Medi 2023 yn nodi’r data diweddaraf ar gyfer tlodi plant, ac yn manylu ar ddull Llywodraeth Cymru o fynd i’r afael â thlodi plant. Cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar 10 Ionawr, mae’r erthygl hon yn edrych ar effeithiolrwydd dull gweithredu Llywodraeth Cymru.

Diffyg uchelgais?

Mae Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yn dweud bod Llywodraeth Cymru “wedi ymrwymo i fynd i'r afael â thlodi plant fel prif flaenoriaeth”. Cyhoeddodd y Llywodraeth ei strategaeth tlodi plant ddrafft ar gyfer ymgynghoriad y llynedd. Bydd yn cyhoeddi ei strategaeth derfynol yn gynnar eleni.

Yn ei rhagair i'r strategaeth ddrafft, tynnodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol sylw at effaith polisïau Llywodraeth y DU, megis cyni a diwygio lles, ar allu Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â thlodi plant. Dywedodd:

Yn yr amgylchiadau hyn, er y gall ymdrechion Llywodraeth Cymru liniaru, neu arafu, effaith penderfyniadau'r DU, ni allant droi'r llanw sy'n llifo mor rymus a bwriadol i'r cyfeiriad arall.

Cydnabu Chris Birt o Sefydliad Joseph Rowntree fod penderfyniadau Llywodraeth y DU yn amlwg yn cael effaith ond dywedodd fod gan Lywodraeth Cymru nifer o fesurau lleihau tlodi plant o fewn ei phwerau hefyd:

…if we think that there is nothing that the Welsh Government or Senedd can do to reduce poverty in Wales, I’d pack up. Of course there are things to do.

Clywodd y Pwyllgor Cydraddoldeb bryderon eang bod diffyg uchelgais yn null gweithredu Llywodraeth Cymru. Awgryma’r Comisiynydd Plant nad oes gan Lywodraeth Cymru ffydd yn ei gallu i gyflawni’r dyheadau yn ei strategaeth ddrafft, a’i bod yn canolbwyntio mwy ar yr hyn na allwn ei wneud a pham. Yn yr un modd, mae Sefydliad Bevan yn annog Llywodraeth Cymru i fod yn fwy uchelgeisiol, gan ganolbwyntio ar gyfrannu tuag at ddileu tlodi plant.

A oes angen targedau i anelu ymdrechion?

Nid yw strategaeth ddrafft Llywodraeth Cymru yn cynnwys targedau ar gyfer lleihau tlodi plant. Yn lle hynny, mae Llywodraeth Cymru’n cynnig defnyddio ystod o ddangosyddion eraill i fesur cynnydd o ran mynd i’r afael â thlodi plant.

Fodd bynnag, mae ystod eang o sefydliadau, gan gynnwys Archwilio Cymru, y Comisiynydd Plant, a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi galw ar Lywodraeth Cymru i bennu targedau penodol ar gyfer lleihau tlodi plant.

Pennwyd targedau lleihau tlodi plant yn yr Alban o dan Ddeddf Tlodi Plant (Yr Alban) 2017. Mae'r Comisiwn Tlodi ac Anghydraddoldeb, sy’n rhoi cyngor annibynnol i Weinidogion yr Alban, yn dweud er na ddylai targedau fod yr unig ffocws:

…child poverty targets are extremely important because they concentrate minds and resources. They provide a high level measure of child poverty that focuses on addressing low income. This requires government to take large-scale action, rather than working in the margins on small-scale projects.

Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb yn credu ei bod yn “hanfodol bod targedau interim heriol ond realistig a thymor hwy yn cael eu cynnwys yn y strategaeth tlodi plant” er mwyn darparu atebolrwydd o ran sicrhau cynnydd. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru o’r farn y bydd defnyddio ystod o ddangosyddion yn “adlewyrchu cynnydd yn erbyn ein dull o ymdrin â'r gyfres gymhleth hon o broblemau yn fwy cywir nag y byddai mesur sy'n seiliedig ar dargedau yn unig”.

Gweledigaeth glir ar gyfer mynd i’r afael â thlodi plant, neu restr o bolisïau presennol?

Disgrifiodd y Comisiynydd Plant y strategaeth ddrafft fel rhestr o bolisïau presennol nad yw’n nodi yn union beth, sut, pryd na phwy mewn gwirionedd a fydd yn cyflawni yn erbyn y gwahanol bolisïau hynny. Yn yr un modd, mae'r Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant wedi mynegi pryder am ddull Llywodraeth Cymru:

…it does not articulate a clear strategic framework to identify, prioritise, plan and implement actions, allocate resources, develop outcome targets, or monitor progress and promote accountability for interventions to tackle child poverty in Wales, now and in the future.

Daeth y Pwyllgor Cydraddoldeb i'r casgliad fod “diffyg uchelgais a thargedau” yn y strategaeth ddrafft wedi arwain at ddiffyg cysondeb a chydlyniant yn y dull y mae Llywodraeth Cymru yn eu ddefnyddio i fynd i’r afael â thlodi plant. Galwodd am Weinidog Babanod, Plant a Phobl Ifanc penodedig i gydgysylltu ymdrechion i fynd i’r afael â thlodi plant.

Lleihau tlodi plant - beth sy'n gweithio?

Mewn adroddiad ar gyfer Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, tynnodd Dr Irene Bucelli a Dr Abigail McKnight sylw at y polisïau sydd, yn ôl tystiolaeth ryngwladol, fwyaf effeithiol o ran lleihau tlodi. Mae'r rhain yn cynnwys polisïau amddiffyniadau cymdeithasol; rhaglenni marchnad lafur gweithredol; prydau ysgol am ddim neu am bris gostyngol; addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant o ansawdd gwell; a gwella llythrennedd ariannol. Mae tystiolaeth o'r Alban a Seland Newydd yn awgrymu bod llwyddiant y mentrau hyn yn gofyn am fuddsoddiad hirdymor.

Dywed Sefydliad Bevan fod tystiolaeth bod mesurau sy’n gysylltiedig ag incwm yn gweithio, ac y dylent fod yn brif ffocws strategaeth lleihau tlodi plant. Cedwir ysgogiadau nawdd cymdeithasol allweddol gan Lywodraeth San Steffan, ond mae Llywodraeth Cymru yn darparu grantiau prawf modd a elwir yn 'system fudd-daliadau Gymreig'. Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn gweithio i’w gwneud yn haws cael y rhain, a bydd yn rhoi diweddariadau rheolaidd ar y cynnydd a wneir.

Mae Taliad Plant yr Alban yn rhoi £25 yr wythnos i deuluoedd sy’n derbyn budd-daliadau lles penodol am bob plentyn o dan 16 oed y maent yn gofalu amdano, a disgwylir i hwn chwarae rhan fawr mewn lleihau tlodi plant. Galwodd nifer o sefydliadau ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i ystyried taliad tebyg ar gyfer y tymor hwy. Dywed Llywodraeth Cymru nad oes ganddi’r pwerau i roi cynllun tebyg ar waith, ond mae’n gwneud gwaith i weld beth ellir ei wneud o fewn ei phwerau. Mae'r Prif Weinidog hefyd wedi amlygu‘r rhwystr ariannol i wneud hynny ar hyn o bryd.

Mae’r Athro Mari Rege, pennaeth grŵp arbenigol Llywodraeth Norwy ar dlodi plant, yn dadlau fel a ganlyn ynghylch torri’r cylch tlodi sy’n pontio’r cenedlaethau:

I, at least, don't know about any more effective tool than early childhood education, to actually bring them in to childcare, where they have nurturing learning experiences that create a foundation for learning for life.

Yn ystod tymor y Senedd hon, mae Llywodraeth Cymru wedi ehangu’r Cynnig Gofal Plant i rieni mewn addysg neu hyfforddiant sydd â phlant tair a phedair oed. Fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio, mae hefyd yn cyflwyno yn raddol ddarpariaeth blynyddoedd cynnar ar gyfer pob plentyn dwy oed. Bydd Llywodraeth Cymru’n cael cyllid ychwanegol yn ei Chyllideb ar gyfer 2024-25 oherwydd gwariant ychwanegol ar ddarpariaeth gofal plant yn Lloegr, ond mae wedi dewis peidio â gwario’r cyllid hwn ar ofal plant.

Mae'r Comisiynydd Plant a Phwyllgor yr Hinsawdd a’r Amgylchedd yn Senedd Ieuenctid Cymru wedi galw am drafnidiaeth gyhoeddus am ddim i blant a phobl ifanc. Mae'r Comisiynydd Plant yn dadlau y bydd hyn yn mynd i'r afael â thlodi plant, ac yn hybu arferion gydol oes. Dywed Llywodraeth Cymru fod nifer o ddisgowntiau a mesurau teithio am ddim eisoes ar waith, ond nid oes ganddi ddigon o arian ar hyn o bryd i ehangu’r rhain.

Beth nesaf?

Fel y casglodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, mae ymdrechion Llywodraeth Cymru i leihau tlodi plant yn wynebu heriau megis cyllidebau dan bwysau a pheidio â chael rheoli rhai ysgogiadau pwysig. Fodd bynnag, mae ymatebion i'w strategaeth ddrafft yn awgrymu bod angen cryn dipyn o waith i wneud gwell defnydd o'r ysgogiadau sydd o fewn ei phwerau. Cawn weld y manylion ynghylch sut y bydd y Llywodraeth yn ymateb i’r pryderon hyn pan gaiff ei strategaeth tlodi plant derfynol ei chyhoeddi yn fuan.

Gallwch wylio'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar Senedd TV ar 10 Ionawr.


Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru