- Cynnydd yn nifer yr achosion o greulondeb anifeiliaid y rhoddwyd gwybod amdanynt i'r adran erlyniadau - cynnydd o 174 yn 2012 i 199 yn 2013;
- Cynnydd yn nifer y rhai o dan amheuaeth y rhoddwyd gwybod amdanynt yn 2013 - sef, 318, a 288 oedd y nifer yn 2012;
- Cafodd cyfanswm o 91 o droseddwyr eu rhybuddio yn 2013, o'i gymharu â 61 yn 2012; a
- Sicrhaodd yr RSPCA 297 o gollfarnau yn y Llysoedd Ynadon yn 2013, gyda chyfradd llwyddo wrth erlyn o 100%, o'i gymharu â 248 yn 2012.
Pwy sy'n gyfrifol am Les Anifeiliaid?
Cyhoeddwyd 19/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau
19 Mehefin 2014
Erthygl gan Nia Seaton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chris O'Brien, RSPCA Cymru
Mae’r wythnos hon (16-20 Mehefin) yn wythnos RSPCA. Y thema eleni, wrth i'r RSPCA ddathlu ei phen blwydd yn 190, yw Pwy sy'n gyfrifol am Les Anifeiliaid? Pwrpas yr wythnos yw atgoffa'r holl sefydliadau a'r unigolion perthnasol o'u rôl a'u cyfrifoldeb i gynnal safonau lles yng Nghymru ac i roi sylw i'r hyn y mae modd ei wneud i leihau nifer yr achosion o greulondeb i anifeiliaid yng Nghymru.
I gyd-fynd â hyn, mae'r RSPCA wedi cyhoeddi ei Adroddiad Erlyniadau Blynyddolsy'n cynnwys gwybodaeth am y tueddiadau mewn achosion o greulondeb anifeiliaid sy'n cael eu cofnodi yng Nghymru. Cafodd y blog yma ei baratoi ar y cyd gan yr RSPCA ac mae'n nodi rhai o'r prif ganfyddiadau.
Mae 43% o gartrefi yng Nghymru bellach yn berchen ar un anifail yn ôl yr RSPCA, ac mae hynny'n pwysleisio pwysigrwydd y mater. Mae llawer o wleidyddion Cymru yn nodi lles anifeiliaid fel un o'r materion y mae eu hetholwyr yn fwyaf tebygol o godi â nhw.
Beth mae ystadegau Cymru yn 2013 yn ei ddweud wrthym?
Mae'r ystadegau yn yr adroddiad yn dangos bod nifer yr achosion a gofnodwyd, y collfarnau a gafwyd a'r troseddwyr a gafodd eu rhybuddio yn 2013 oll wedi cynyddu o'u cymharu â ffigurau 2012.
Mae hyn yn cynnwys: