Disgwyliwyd i brosiectau gwblhau'r rhan fwyaf o'r gwaith sylfaenol yn ystod 2014-15, gyda rhywfaint o hyblygrwydd ar gyfer gwario yn chwarter cyntaf 2015-16. Disgwyliwyd i'r gwaith ddechrau yn ystod haf 2014, yn syth ar ôl i Lywodraeth Cymru gymeradwyo bob prosiect. Roedd oedi yn y broses gwneud cais yn golygu bod y dyddiad cau ar gyfer cynigion prosiectau wedi'i symud i fis Hydref, gyda'r prosiectau llwyddiannus yn cael eu cyhoeddi ym mis Tachwedd 2014. Roedd rhagor o oedi gyda'r gwaith sylfaenol ac roedd yn anodd neu'n amhriodol cyflawni rhai o'r camau gweithredu a gynlluniwyd dros y gaeaf. Roedd y cyfuniad o ffactorau tymhorol a chyhoeddi'r arian yn hwyr yn cyfyngu ar yr amser a oedd ar gael i brosiectau gynllunio a dechrau gwaith cyn diwedd blwyddyn ariannol 2014-15. Er bod y Gronfa Natur wedi bwriadu dyrannu £6 miliwn yn wreiddiol, arweiniodd adolygiad o bwysau ariannol ym mhob rhan o'r Adran Cyfoeth Naturiol at leihau'r gronfa i £5 miliwn. Roedd tystiolaeth a ddarparwyd i'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd gan y Gweinidog yn datgelu o'r cyfanswm o £5 miliwn a ddyfarnwyd, dim ond £280,550 oedd wedi'i dalu i brosiectau erbyn diwedd mis Ionawr 2015. Rhagwelwyd y byddai £3.9 miliwn yn cael ei dalu erbyn diwedd mis Mawrth, (yn cynrychioli 77 y cant o gyfanswm y Gronfa Natur) a rhagwelwyd y byddai £869,753 yn cael ei wario yng ngweddill 2015 (a fydd yn rhan o gyllideb 2015-16). Ym mis Mawrth, pan holwyd Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, a oedd yn hyderus y gellid gwario £3.9 miliwn o'r arian mewn cyn lleied o amser, dywedodd wrth y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd fod Llywodraeth Cymru yn 'agos' a'i fod yn hyderus, yn nhymor hwy y rhaglen, y byddai'r arian yn cael ei wario. Mae'r Gweinidog wedi cytuno i roi diweddariad i'r Pwyllgor ynghylch cynnydd y gwariant o'r Gronfa Natur. Mae rhai sefydliadau ac Aelodau wedi mynegi pryder ynghylch pa mor llwyddiannus a chost effeithiol fydd y prosiectau a ariennir yn sicrhau gwelliannau i fioamrywiaeth heb fod wedi sicrhau cyllid yn y tymor hwy. Er i Lywodraeth Cymru nodi'n wreiddiol y byddai'r arian ond ar gael ar gyfer 2014-15, mae'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol wedi dweud wrth y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd wedi hynny ei fod yn ystyried arian posibl yn y dyfodol ar gyfer rhai o'r prosiectau cyfredol drwy gynlluniau fel y Cynllun Datblygu Gwledig:… no, it will not. The nature fund was an opportunity; it was a catalyst for changing the way in which the system operates. It is not, and never was, intended to be a long-term project.
*Llun o Flickr gan Kris Williams, trwydded gan Creative Commons. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg...we need to be in it for the long haul here, to change the environment and the ecological structures of communities: land-based change. I just wasn’t comfortable with the nature fund as it was.