Cymunedau Cynllunio Economi Trafnidiaeth Ynni Yr Amgylchedd

Proses cydsynio seilwaith newydd i Gymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynigion i newid y ffordd o gydsynio prosiectau seilwaith mawr.

07 Mehefin 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynigion i newid y ffordd o gydsynio prosiectau seilwaith mawr.

Mae angen dull gweithredu newydd oherwydd y caiff rhagor o bwerau cydsynio eu datganoli ar 1 Ebrill 2019. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn manteisio ar y cyfle i gyfuno nifer o brosesau cyfredol mewn un broses gydsynio syml.

Mae dau gam yn cael eu cynnig:

  • Datrysiad dros dro sy’n gofyn am newidiadau i brosesau cyfredol; a
  • Datrysiad hirdymor sy’n gofyn am ddeddfwriaeth sylfaenol i sefydlu ffordd hollol newydd o gydsynio.

Mae’r cynigion yn berthnasol yn y meysydd lle mae cydsynio wedi’i ddatganoli yn unig.

Felly, er enghraifft, yn y dyfodol, byddai angen cydsynio prosiectau fel ffordd liniaru arfaethedig yr M4 o amgylch Casnewydd a’r morlyn llanw 200 megawat (MW) ym Mae Abertawe drwy y broses newydd, ond ni fyddai hyn yn digwydd yn achos gorsaf bŵer niwclear 2,700MW Wylfa Newydd oherwydd y byddai Llywodraeth y DU yn parhau i fod yn gyfrifol am gydsynio i orsafoedd cynhyrchu â chapasiti dros 350MW.

Y sefyllfa bresennol

Ar hyn o bryd mae gan Gymru dair haen o brosesau cydsynio ar gyfer y rhan fwyaf o brosiectau seilwaith (ceir rhai eithriadau):

  • Awdurdodau cynllunio lleol sy’n penderfynu ar brosiectau llai;
  • Llywodraeth Cymru sy’n penderfynu ar brosiectau mwy, lle mae cydsynio wedi’i ddatganoli, a hynny drwy’r broses Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol; a
  • Llywodraeth y DU sy’n penderfynu ar brosiectau mwy, lle nad yw cydsynio wedi’i ddatganoli, a hynny drwy’r broses Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol.

Mae awdurdodau cynllunio lleol a Llywodraeth Cymru yn rhoi cydsyniad o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 – caniatâd cynllunio yw’r enw cyffredin am hyn.

Mae Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol yn gofyn am fath arall o gydsyniad o’r enw Gorchymyn Caniatâd Datblygu, a roddir o dan Ddeddf Cynllunio 2008. Gall Gorchmynion Caniatâd Datblygu gynnwys cydsyniadau ar ystod o faterion cysylltiedig – cydsyniadau eilaidd yw’r enw ar y rhain yn aml.

Pwerau newydd

Mae Deddf Cymru 2017 yn datganoli pwerau cydsynio pellach a fydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2019, gan gynnwys:

  • Gorsafoedd cynhyrchu ynni â gallu hyd at ac yn cynnwys 350MW ar y tir ac yn nyfroedd Cymru (sef ardal ar y môr hyd at tua 12 milltir forol o lannau Cymru). Nid yw hyn yn cynnwys gwynt ar y tir sydd eisoes wedi’i ddatganoli heb unrhyw derfyn uchaf; a
  • Llinellau trydan uwchben hyd at ac yn cynnwys 132 cilofolt (KV) sy’n gysylltiedig â phrosiect cynhyrchu ynni datganoledig.

Yn ogystal, mae Deddf Cymru eisoes wedi datganoli cydsynio ar gyfer Gorchmynion Diwygio a Grymuso Harbyrau a wneir o dan Ddeddf Harbyrau 1964, ar gyfer y rhan fwyaf o borthladdoedd yng Nghymru. Daeth y pwerau newydd hyn i rym ar 1 Ebrill 2018.

Pam mae angen proses newydd

Mae’r ffordd y mae Deddf Cymru yn datganoli’r pwerau newydd yn creu rhai anghysonderau y mae angen eu datrys i sicrhau dull cydsynio effeithlon ac effeithiol.

Ar hyn o bryd, Llywodraeth y DU sydd â’r pwerau cydsynio ar gyfer gorsafoedd cynhyrchu ynni a llinellau trydan uwchben, a hynny drwy’r Gorchmynion Caniatâd Datblygu.

Wrth ddatganoli’r pwerau hyn, mae Deddf Cymru yn cymryd y broses o gydsynio’r prosiectau hyn allan o’r broses Gorchmynion Caniatâd Datblygu ac yn rhoi’r broses o gydsynio gorsafoedd cynhyrchu datganoledig yn nyfroedd Cymru yn ôl yn nghyn-broses Deddf Trydan 1989.  Ar y tir, rhoddir y broses o gydsynio gorsafoedd cynhyrchu datganoledig a llinellau trydan uwchben cysylltiedig ym mhroses y Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref, yn hytrach na’r Ddeddf Trydan. Nid yw’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref wedi cael ei defnyddio o’r blaen i gydsynio prosiect cynhyrchu ar y raddfa hon.

Mae hyn yn cael ei weld fel cam yn ôl, a hynny am nifer o resymau a restrir yn y ddogfen ymgynghori.

Hefyd, mae Llywodraeth Cymru yn ffafrio dull gweithredu mwy integredig a symlach o ran cydsynio seilwaith. Mae’n dymuno pennu un dull hollgynhwysol ar gyfer prosiectau datganoledig mawr, yn debyg i broses Gorchmynion Caniatâd Datblygu Llywodraeth y DU. Mae’n dadlau y byddai hyn yn arwain at benderfyniadau mwy cyson a thryloyw, a mwy o sicrwydd i gymunedau a datblygwyr fel ei gilydd.

Y dewis arall fyddai parhau â nifer o wahanol brosesau, a phob un â’u gofynion eu hunain, sydd wedi’u pennu o ddeddfwriaeth wahanol (gan gynnwys y Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref, y Ddeddf Trydan a’r Ddeddf Harbyrau a nodir uchod).

Mae’r un dull hollgynhwysol hefyd yn caniatáu ar gyfer cynnwys nifer o gydsyniadau eilaidd yn y prif gydsyniad, yn hytrach na gorfod gwneud cais amdanynt ar wahân.

Hefyd, cynigir rhai newidiadau cysylltiedig i’r broses prynu gorfodol.

Datrysiad dros dro

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod angen datrysiad dros dro oherwydd nad oes digon o amser i sefydlu proses gwbl newydd cyn 1 Ebrill 2019.

Mae’r datrysiad dros dro yn golygu bod angen diwygio deddfwriaeth eilaidd i gynnwys y gorsafoedd cynhyrchu ynni ar y tir a’r llinellau trydan sydd newydd eu datganoli yn y broses bresennol Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol.

Bydd gorsafoedd cynhyrchu ynni ar y môr yn cael eu cydsynio o dan y Ddeddf Trydan, gyda strwythur ffioedd newydd yn seiliedig ar adennill costau llawn. Bydd Gorchmynion Diwygio a Grymuso Harbyrau yn parhau i gael eu gwneud o dan Ddeddf Harbyrau.

Ni ellir dod â gorsafoedd cynhyrchu ynni ar y môr a Gorchmynion Diwygio a Grymuso Harbyrau o dan y Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol oherwydd bod y Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref, a sefydlodd y broses Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol, yn ymestyn at y marc dŵr isel yn unig.

Bydd y datrysiad dros dro yn dod i rym ar 1 Ebrill 2019 a bydd yn parhau i fod ar waith hyd nes y caiff y broses newydd ei sefydlu. Mae’r ddogfen ymgynghori yn awgrymu mai ar ôl 2020 y bydd hyn.

Datrysiad hirdymor

Y datrysiad hirdymor yw sefydlu un broses gydsynio hollgynhwysol sy’n benodol i Gymru.

Cydsyniad Seilwaith Cymru fyddai’r enw ar hyn, a Phrosiectau Seilwaith Cymru fyddai’r enw ar y prosiectau o dan y broses. Byddai angen i’r Cynulliad basio deddfwriaeth sylfaenol i sefydlu’r broses newydd.

Byddai Cydsyniadau Seilwaith Cymru yn cydgrynhoi’r cydsyniadau presennol o dan y Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref, y Ddeddf Trydan, y Ddeddf Harbyrau, a nifer o gydsyniadau eraill a wneir o dan ddeddfwriaeth priffyrdd, mewn un math o gydsyniad. Byddai Cydsyniadau Seilwaith Cymru hefyd yn cynnwys ystod eang o gydsyniadau eilaidd, gan gynnwys gorchmynion prynu gorfodol, trwyddedau morol a thrwyddedau amgylcheddol.

Byddai’r broses gydsynio yn cynnwys trothwyon a pholisïau y gellir asesu’r prosiectau unigol yn eu herbyn. Byddai’r polisïau allweddol yn cynnwys Polisi Cynllunio Cymru, y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a Chynllun Morol Cenedlaethol Cymru. Byddai’r strwythur ffioedd yn seiliedig ar adennill costau llawn.

Byddai proses Cydsyniadau Seilwaith Cymru yn cael ei chynllunio i fod yn hyblyg er mwyn gallu cynnwys prosiectau o wahanol fathau a meintiau. Byddai’n gweithio mewn ffordd gyfrannol, gan ganiatáu gwneud rhai mathau o benderfyniadau yn gynt, a chraffu’n fwy ar benderfyniadau eraill sy’n fwy cymhleth.

Mae hyn yn cynnwys cyflwyno categori o Brosiectau Seilwaith Cymru dewisol y gallai’r datblygwr ddewis eu cyflwyno naill ai drwy broses Cydsyniadau Seilwaith Cymru neu broses yr awdurdod cynllunio lleol. Yn achos prosiectau ar y môr, lle nad oes awdurdod cynllunio lleol, y broses llwybr amgen ar gyfer prosiectau seilwaith dewisol fyddai drwy’r broses trwyddedu morol.

Byddai proses Cydsyniadau Seilwaith Cymru hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr ymgysylltu â chymunedau lleol cyn cyflwyno’u ceisiadau, a rhoi mwy o gyfle i’r cyhoedd gymryd rhan yn y broses archwilio. Hefyd, byddai rôl benodol hefyd i awdurdodau cynllunio lleol o ran cofnodi’r effaith ar eu hardaloedd.

Mae categorïau arfaethedig Prosiectau Seilwaith Cymru yn ddarostyngedig i rai trothwyon a chyfyngiadau, ac fe’u rhestrir isod. Bydd hefyd yn bosibl nodi Prosiectau Seilwaith Cymru drwy’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol.

Seilwaith trydan

  • Gorsafoedd cynhyrchu ynni; a
  • Llinellau trydan uwchben.

Olew, nwy a mwynau

  • Cyfleusterau storio nwy tanddaearol;
  • Cyfleusterau nwy naturiol hylifedig;
  • Cyfleusterau derbyn nwy;
  • Olew neu nwy anghonfensiynol (ffracio);
  • Nwyeiddio glo dan y ddaear; a
  • Chloddio glo brig.

Trafnidiaeth

  • Priffyrdd;
  • Rheilffyrdd;
  • Cyfnewidfeydd rheilffyrdd cludo nwyddau;
  • Porthladdoedd a harbyrau; a
  • Meysydd awyr.

Dŵr

  • Argaeau a chronfeydd dŵr;
  • Trosglwyddo adnoddau dŵr; a
  • Gweithfeydd trin dŵr gwastraff.

Gwastraff

  • Cyfleusterau gwastraff peryglus; a
  • Gwaredu daearegol ar gyfer gwaredu gwastraff ymbelydrol yn derfynol.

Rhagor o wybodaeth

Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng 30 Ebrill a 23 Gorffennaf 2018:
Tuag at sefydlu proses bwrpasol ar gyfer rhoi caniatâd seilwaith yng Nghymru

Mae’r Gwasanaeth Ymchwil wedi cyhoeddi’r dogfennau briffio a ganlyn:
Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol
Cydsynio seilwaith cynhyrchu ynni


Erthygl gan Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru