Addysg Cymunedau Economi Gofal Cymdeithasol Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG Llywodraeth leol

Coronafeirws: nodweddion gweithwyr allweddol

Bob nos Iau mae pobl ledled Cymru yn clapio gweithwyr allweddol, sef 35 y cant o'n gweithlu. Mae hyn yn uwch na ffigur cyfartalog y DU, ac mae’n uwch na phob rhanbarth yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Yn yr erthygl hon ceir data ar weithwyr allweddol yng Nghymru, gan gynnwys eu meysydd gwaith, nodweddion gweithwyr allweddol, ac i ba raddau y mae swyddi gweithwyr allweddol yn dod â nhw i gysylltiad â’r coronafeirws.

Amcangyfrif o amser darllen: 5 Munud

21 Mai 2020

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Bob nos Iau mae pobl ledled Cymru yn clapio gweithwyr allweddol, sef 35 y cant o’n gweithlu. Mae hyn yn uwch na ffigur cyfartalog y DU, ac mae’n uwch na phob rhanbarth yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Yn yr erthygl hon ceir data ar weithwyr allweddol yng Nghymru, gan gynnwys eu meysydd gwaith, nodweddion gweithwyr allweddol, ac i ba raddau y mae swyddi gweithwyr allweddol yn dod â nhw i gysylltiad â’r coronafeirws.

Yng ngoleuni sylwebaeth ddiweddar ar y pwnc hwn yn wleidyddol ac yn y cyfryngau, rydym hefyd wedi cyhoeddi erthygl ar gyflogau ac amodau gwaith presennol gweithwyr allweddol.

Mae ein herthyglau ar cyfarpar diogelu personol (PPE) a chynnal profion yn ymdrin â’r pynciau hyn mewn cysylltiad â gweithwyr allweddol.

Mae bron i hanner miliwn o weithwyr allweddol yn gweithio mewn gwahanol sectorau yng Nghymru

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae 483,000 o weithwyr allweddol yng Nghymru.

Cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ddata ar y coronafeirws a gweithwyr allweddol yn y DU sy’n rhoi ffigur ychydig yn uwch, sef 485,000 o weithwyr allweddol.  Mae’n defnyddio’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth i gyfrifo ffigurau ar gyfer gweithwyr allweddol ledled y DU yn 2019.  Mae’r mapiau a’r graffiau yn yr erthygl hon yn defnyddio’r data hyn, gan eu bod yn caniatáu gwneud cymariaethau ledled y DU, a gweld lle mae’r gweithwyr allweddol yng Nghymru, y sectorau maen nhw’n gweithio ynddynt, a’u nodweddion.

Canran y gweithlu a gyflogwyd fel gweithwyr allweddol yn 2019

Graff yn cymharu canran y gweithlu ar draws y gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr sy'n cael eu cyflogi fel gweithwyr allweddol.
Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Gwladol, Coronafeirws a gweithwyr allweddol yn y DU

Mae gan weithwyr allweddol nifer o rolau hanfodol yn y sector preifat, yn y sector cyhoeddus ac yn y trydydd sector wrth ymateb i bandemig y coronafeirws. Mae dros draean y gweithwyr allweddol yng Nghymru yn gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae un o bob pump yn gweithio ym maes addysg a gofal plant.

Nifer y gweithwyr allweddol yng Nghymru a gyflogir ym mhob sector

Ffeithlun yn dangos nifer y gweithwyr allweddol yng Nghymru yn ôl sector.
Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Gwladol, Coronafeirws a gweithwyr allweddol yn y DU

Yn y sector ‘iechyd a gofal cymdeithasol’ a’r sector ‘bwyd a nwyddau angenrheidiol’ mae canran y gweithlu hwn yng Nghymru yn uwch na ffigur cyfartalog y DU. Mae gweithwyr cyfleustodau a chyfathrebu yn gyfran is o weithlu Cymru na’r gyfran ar gyfer y DU.

Mae cyfran y gweithlu sy’n weithwyr allweddol yn fwy mewn rhai meysydd

Yng Nghymru, mae gweithwyr allweddol mewn awdurdodau lleol yn y Cymoedd ac mewn ardaloedd gwledig yn tueddu i fod yn ganran uwch o’r gweithlu; mae dros 40 y cant o weithluoedd Ynys Môn, Blaenau Gwent a Ceredigion yn weithwyr allweddol.

Canran y gweithlu fesul awdurdod lleol a gyflogwyd fel gweithwyr allweddol yn 2019

Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Gwladol, Coronafeirws a gweithwyr allweddol yn y DU

Mae menywod a phobl o grwpiau BAME yn fwy tebygol o fod yn weithwyr allweddol

Mae mwy o fenywod na dynion yn weithwyr allweddol yn y DU.  Canfu‘r SYG fod 58 y cant o weithwyr allweddol yn fenywod. Yn y sector addysg a gofal plant, mae 81 y cant o’r gweithwyr yn fenywod, ac yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol,  79 y cant o’r gweithwyr sy’n fenywod. Mewn cyferbyniad, dynion yw 90 y cant o weithwyr trafnidiaeth a dros 75 y cant o weithwyr cyfleustodau a chyfathrebu.

Canfu’r SYG hefyd fod 14 y cant o weithwyr allweddol yn y DU yn dod o gefndiroedd pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME), o’i gymharu â 12 y cant o’r holl weithwyr.  Mae gweithwyr BAME yn debygol iawn o weithio mewn dau sector – mae 19 y cant o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn dod o grwpiau BAME, fel y mae 15 y cant o weithwyr cyfleustodau a chyfathrebu.

Mae rhai swyddi gweithwyr allweddol yn eu gwneud yn fwy agored i’r feirws

Ledled y DU, mae’r SYG wedi canfod bod swyddi rhai gweithwyr allweddol yn dod â nhw i gysylltiad â’r coronafeirws yn ddyddiol. Yn naturiol ddigon mae’r rhain yn cynnwys llawer o swyddi gofal iechyd megis deintyddion, meddygon, nyrsys, staff ambiwlans, nyrsys deintyddol a chynorthwywyr nyrsio.

Mae tri o bob pedwar o’r gweithwyr mewn swyddi sy’n dod i gysylltiad â’r coronafeirws fwyaf yn fenywod. Mae’r rhain yn cynnwys swyddi bydwragedd, nyrsys, nyrsys deintyddol a nyrsys milfeddygol.

Mae un o bob pump o’r gweithwyr sydd mewn swydd sy’n dod â nhw i’r cysylltiad mwyaf â’r coronafeirws yn dod o grwpiau BAME, sy’n ffigur sylweddol uwch na chanran y gweithlu cyffredinol o grwpiau BAME. Mae’r rhain yn cynnwys deintyddion, ymarferwyr meddygol ac optegwyr. Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp cynghori BAME ar COVID-19 i ddeall effeithiau penodol y coronafeirws ar gymunedau BAME.

Mewn rhai rolau, mae cyfraddau marwolaeth gweithwyr allweddol yn uwch

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd wedi cyhoeddi data ar farwolaethau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws fesul swydd yng Nghymru a Lloegr. Ymchwiliodd hyn i’r 2,494 o farwolaethau cysylltiedig â’r coronafeirws yn y boblogaeth oedran gweithio hyd at 20 Ebrill.

Roedd bron i ddeuparth y marwolaethau hyn ymhlith dynion; cyfradd y marwolaethau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws yw 9.9 fesul 100,000 ar gyfer dynion, o’i chymharu â 5.2 fesul 100,000 ar gyfer menywod.

Ar gyfer dynion a menywod fel ei gilydd, gellir gweld y cyfraddau uchaf o farwolaethau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws mewn dau fath o swyddi – gofalu, hamdden a gwasanaethau eraill; a swyddi elfennol ‘sgiliau isel’.

Canfu’r SYG fod “men and women working in social care, a group including care workers and home carers, both had significantly raised rates of death involving COVID-19, with rates of 23.4 deaths per 100,000 males (45 deaths) and 9.6 deaths per 100,000 females (86 deaths)”.

Fodd bynnag, casglodd y SYG hefyd: “healthcare workers, including those with jobs such as doctors and nurses, were not found to have higher rates of death involving COVID-19 when compared with the rate among those whose death involved COVID-19 of the same age and sex in the general population”.

Mae’r cyfraddau marwolaeth uchaf ymhlith pobl oedran gweithio i’w gweld ar gyfer dynion sy’n gweithio mewn swyddi elfennol. Mae’r rhain yn cynnwys swyddogion diogelwch, swyddi mewn gweithfeydd prosesu a swyddi adeiladu elfennol.

Mae’r SYG yn amlygu’r ffaith nad yw’r dadansoddiad yn profi ‘conclusively that the observed rates of death involving COVID-19 are necessarily caused by differences in occupational exposure’; mae’r SYG wedi addasu ‘for age, but not for other factors such as ethnic group and place of residence’.

Mae swyddi rhai gweithwyr allweddol sydd â’r cysylltiad uchaf â’r coronafeirws, a/neu’r cyfraddau marwolaeth uchaf sy’n deillio o’r coronafeirws, hefyd ymhlith y swyddi sydd â’r cyflogau isaf. Dyma un o’r meysydd yr ydym yn ymdrin ag ef yn ein hail erthygl ar weithwyr allweddol, lle y trafodir tâl ac amodau gwaith.


Erthygl gan Gareth Thomas a Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.

Show Buttons
Hide Buttons
%d bloggers like this: