Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymunedau Plant a Phobl Ifanc Tai

Y coronafeirws: cam-drin domestig

Nid yw 'arhoswch gartref' yn gyfarwyddyd hwylus i bobl pan nad yw eu cartrefi yn fannau diogel i fod ynddynt. Pan gaiff pobl sy’n dioddef cam-drin domestig eu gorfodi i ynysu gyda chyflawnwyr, gall hynny gyfyngu ar eu cyfleoedd i ddianc neu gael mynediad at wasanaethau.

Amcangyfrif o amser darllen: 8 Munud

01 Mai 2020

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Nid yw ‘arhoswch gartref’ yn gyfarwyddyd hwylus i bobl pan nad yw eu cartrefi yn fannau diogel i fod ynddynt. Pan gaiff pobl sy’n dioddef cam-drin domestig eu gorfodi i ynysu gyda chyflawnwyr, gall hynny gyfyngu ar eu cyfleoedd i ddianc neu gael mynediad at wasanaethau.

Ymddengys fod y DU yn dilyn tuedd fyd-eang, lle gwelir achosion o gam-drin domestig yn cynyddu yn ystod y cyfnod hwn o gyfyngiadau symud. Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod o leiaf 16 o fenywod a phlant wedi cael eu lladd yn y DU o ganlyniad i gam-drin domestig rhwng 23 Mawrth a 12 Ebrill.

Mae nifer y galwadau i linellau cymorth ym maes cam-drin domestig wedi cynyddu, gydag un sefydliad yn adrodd cynnydd o 700 y cant mewn un diwrnod.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod “gwasanaethau cam-drin domestig yng Nghymru yn barod i helpu” pobl sydd mewn perygl. Fodd bynnag, mae Cymorth i Ferched Cymru wedi codi pryderon difrifol ynghylch y diffyg cyllid brys sydd wedi’i glustnodi ar gyfer ymateb i’r galw am wasanaethau yn ystod y pandemig.

Mae’r blog hwn yn rhoi trosolwg o’r dystiolaeth sydd ar gael ynghylch y cynnydd mewn cam-drin, yr ymateb a gafwyd gan Lywodraeth Cymru, a’r ymateb a gafwyd gan y sector.

Mae rhai o’n herthyglau blaenorol hefyd yn mynd i’r afael â’r mater hwn, sef ein herthyglau ar y materion cydraddoldeb a’r goblygiadau hawliau dynol sy’n dod i’r amlwg yn sgil y pandemig. Mae ein dangosyddion cydraddoldeb rhywiol blynyddol ar gyfer Cymru yn dangos bod menywod yn llawer mwy tebygol o gael eu lladd gan bartneriaid a pherthnasau, a’u bod yn fwy tebygol na dynion o brofi cam-drin domestig.

Mae’r galw am rai gwasanaethau yn cynyddu

Hyd yn hyn, nid yw data arolygon yr heddlu a throsedd mewn perthynas ag achosion o gam-drin domestig yn ystod cyfnod y coronafeirws ar gael. Fodd bynnag, mae llawer o ddarparwyr gwasanaethau wedi nodi cynnydd yn y galw.

Serch hynny, ysgrifennodd Jane Hutt, Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru, ar 29 Ebrill am y ffaith bod nifer y galwadau i linell gymorth Byw Heb Ofn a nifer y ceisiadau ar-lein am gymorth yng Nghymru wedi gostwng o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd. Dywedodd: “That is worrying, because it means that victims have no safe way to call for help with their abusers monitoring their every move.”

Mae ystadegau a ddarparwyd i’r Gwasanaeth Ymchwil gan sefydliad Cymorth i Ferched Cymru yn dangos bod 601 o gysylltiadau (galwadau ffôn, gwe-sgyrsiau, negeseuon testun a negeseuon e-bost) wedi’u gwneud â llinell gymorth Byw Heb Ofn yr wythnos diwethaf, i fyny o 463 yn yr wythnos flaenorol.

Cyhoeddodd Pwyllgor Dethol Senedd y DU ar Faterion Cartref ei adroddiad ar gam-drin domestig a’r coronafeirws ar 27 Ebrill. Daeth i’r casgliadau a ganlyn:

  • bu cynnydd yn y galw am rai gwasanaethau cyngor a chymorth a ddarperir ar y ffôn ac ar-lein, ond bu gostyngiad sy’n peri pryder yn nifer y bobl sy’n ceisio cael mynediad at wasanaethau personol;
  • mae angen dybryd am gyllid ychwanegol i gefnogi gwasanaethau er mwyn mynd i’r afael ag anghenion cynyddol;
  • mae natur yr achosion yn gwaethygu’n gynt i fod yn achosion cymhleth a difrifol, gyda lefelau uwch o drais corfforol a rheolaeth orfodol;
  • mae hunanladdiad sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig yn destun pryder difrifol;
  • mae’r cyfyngiadau symud wedi cynyddu’r rhwystrau i adrodd ar gamdriniaeth, ac mae llai o ryngweithio â phobl sy’n gallu adnabod achosion o gamdriniaeth, fel meddygon teulu, athrawon, a’r rhai sy’n bresennol mewn sesiynau galw heibio a gweithleoedd;
  • mae ymbellhau cymdeithasol a phrinder staff wedi lleihau’r capasiti mewn llochesi;
  • mae ymdrechion Llywodraeth y DU i godi ymwybyddiaeth ynghylch cam-drin domestig a sut i gael cymorth wedi cael eu croesawu;
  • mae gan y Swyddfa Gartref ‘fan dall’ o ran yr un o bob pump o blant sydd â phrofiad o gam-drin domestig;
  • Mae’n bosibl bod menywod BAME a menywod mudol yn profi anawsterau ychwanegol wrth geisio gadael sefyllfaoedd o gam-drin yn sgil eu perthynas agos â’u teuluoedd a’u cymunedau ac yn sgil anawsterau ieithyddol;
  • mae dioddefwyr yn arbennig o agored i niwed pan mae eu statws mewnfudo yn ansicr a phan nad oes ganddynt yr hawl i gael mynediad at arian cyhoeddus.

Galwodd y Pwyllgor am strategaeth genedlaethol i gydlynu ymdrechion y sector, gwasanaethau lleol a’r Llywodraeth yn ystod y pandemig.

Mae’n argymell bod Llywodraeth y DU yn darparu pecyn o gyllid brys wedi’i glustnodi ar gyfer gwasanaethau cam-drin domestig, a hynny o fewn ei chronfa o £750 miliwn ar gyfer elusennau.

Argymhellodd hefyd y dylid lansio cynllun i alluogi pobl i ymgysylltu â gwasanaethau cymorth drwy archfarchnadoedd a siopau eraill.

Argymhellodd y Pwyllgor fod awdurdodau lleol yn cynorthwyo’r broses o nodi achosion o gamdriniaeth drwy ymweld â theuluoedd ac aelwydydd lle bu digwyddiadau o gam-drin domestig, neu aelwydydd sy’n cynnwys plant sy’n agored i niwed. Mae’r argymhellion hefyd yn cynnwys cynyddu argaeledd llety mewn llochesi a llety symud ymlaen, ac ehangu gwasanaethau plant.

Mae ymateb Llywodraeth Cymru wedi cael ei feirniadu gan y sector

Mae Cymorth i Ferched Cymru, y sefydliad ymbarél ar gyfer gwasanaethau yng Nghymru, wedi codi pryderon ynghylch y ffaith bod o leiaf 90 y cant o wasanaethau yn ysgwyddo costau ychwanegol yn sgil y pandemig.

Ar 16 Ebrill, dywedodd Jane Hutt AC, y Dirprwy Weinidog:

“Yr wythnos diwethaf, fe gyhoeddais i £1.2 miliwn i dalu am lety cymunedol i ddioddefwyr camdriniaeth ddomestig, yn ogystal â £200,000 arall ar gyfer dodrefn, llenni a charpedi, cyfarpar cyfrifiadurol a nwyddau gwynion, tra bydd ein cronfa gyfalaf flynyddol i fynd i’r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn blaenoriaethu prosiectau i gefnogi’r argyfwng presennol.

[..] Byddwn yn ailredeg ein hymgyrch ‘Paid cadw’n dawel’ ac rydym am weithio gyda’r heddlu, fferyllfeydd ac archfarchnadoedd i rannu ein neges ‘Paid cadw’n dawel’ ynghyd â gwybodaeth am sut i gael help a chefnogaeth.

Rydyn ni wedi agor modiwl e-ddysgu Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol i bawb er mwyn helpu pobl i allu adnabod arwyddion cam-drin domestig a gwybod sut i gael help i’w ffrindiau a’u cymdogion.”

Fodd bynnag, mewn llythyr at y Dirprwy Weinidog, mae Cymorth i Ferched Cymru yn nodi bod y swm o £1.2 miliwn dan sylw wedi’i gyhoeddi’n wreiddiol ym mis Rhagfyr 2019, a bod y swm o £200,000 yn danwariant cyfalaf ar gyfer 2019/20 y cafwyd ymrwymiad yn ei gylch eisoes yn y chwarter diwethaf.

Mae’n mynd ymlaen i ddweud:

These announced funds are not in direct response to the unprecedented measures that have been taken due to the circumstances caused by COVID-19 as the Deputy Minister’s wording would suggest.

[…] This suggests the Government has no intention to fund the additional costs [being incurred by services]. It also gives the impression that the Government is investing to meet the needs of survivors at this time, possibly blocking VAWDASV specialist services from other funding streams as they are seen to be covered. This is not only inaccurate but could also be dangerous.

Mae’r llythyr hefyd yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn bosibl y bydd peth o’r cyllid ychwanegol hwn sydd i fod i fynd allan i dendr mewn un rhanbarth bellach yn cael ei ohirio yn sgil Covid-19.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £24 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer y trydydd sector (dyraniad yr ydym wedi’i grynhoi). Fodd bynnag, mae Cymorth i Ferched Cymru yn nodi bod yn rhaid i ddarparwyr gwasanaethau dreulio cryn dipyn o amser yn llenwi nifer o geisiadau mewn perthynas â photiau generig, a hynny ar adeg pan mae angen iddynt ganolbwyntio ar anghenion uniongyrchol goroeswyr sy’n ceisio cael mynediad at eu gwasanaethau.

Mae Cymorth i Ferched Cymru yn cyferbynnu’r sefyllfa hon â’r swm o £10 miliwn a ddyrannwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi pobl sy’n profi digartrefedd. Er bod Cymorth i Ferched Cymru yn croesawu’r cyllid hwnnw, mae’n nodi ei fod yn canolbwyntio ar gysgu ar y stryd. Mae’r sefydliad yn tynnu sylw at y ffaith bod digartrefedd menywod yn aml yn cael ei guddio, a’i fod yn gysylltiedig â chamdriniaeth ac ecsbloetio neu’n arwain at y pethau hynny.

Mae Cymorth i Ferched Cymru yn galw am fynediad brys at gyllid, fel sydd wedi digwydd yn yr Alban. Mae’n nodi bod arian wedi cael ei ddarparu yno ar unwaith, a hynny gan gydnabod bod yn rhaid i wasanaethau fod yn ymatebol i anghenion sy’n newid a bod diffyg capasiti i lenwi ffurflenni cais diddiwedd.

Ar 31 Mawrth, darparodd Llywodraeth yr Alban £1.4 miliwn mewn cyllid ychwanegol i Scottish Women’s Aid and Rape Crisis Scotland er mwyn sicrhau bod mynediad at y gwasanaethau cymorth allweddol hyn yn cael ei gynnal.

Mae Cymorth i Ferched Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid ychwanegol wedi’i glustnodi ar gyfer y sector trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru, a hynny er mwyn mynd i’r afael â’r materion a ganlyn:

  • colledion refeniw llochesi yn gysylltiedig â’r budd-dal tai;
  • opsiynau llety amgen os yw llochesi yn llawn;
  • cyfarpar diogelu personol (PPE);
  • costau staffio uwch;
  • cyllid ar gyfer gweithwyr plant mewn llochesi a lleoliadau eraill yn ystod y cyfnod pan fydd ysgolion ar gau;
  • technoleg ddigidol.
  • gwasanaethau arbenigol BAME i gynorthwyo’r broses o sicrhau lleoliadau ar gyfer arferion crefyddol a diwylliannol;
  • diwallu anghenion cynyddol gymhleth.

Ar 29 Ebrill, ysgrifennodd y Dirprwy Weinidog y geiriau a ganlyn:

I am working with specialist domestic abuse services to make sure help is available for anyone who needs it, and to make sure there is a safe place for victims and survivors to stay.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi canllawiau yn ymwneud â’r coronafeirws ar gyfer y sawl sy’n darparu llety i ddioddefwyr. Dywed y canllawiau:

“Mae Llywodraeth Cymru wedi cynghori pob awdurdod lleol i ddefnyddio pwerau a chyllid amgen i helpu’r rheini sydd angen lloches a mathau eraill o gymorth oherwydd pandemig COVID-19. 
Mae hynny’n golygu y dylai llochesi dros dro fod ar gael i’r rheini sy’n dianc rhag cam-drin domestig ac sydd heb fynediad at arian cyhoeddus.   Dylai’r rheini sy’n darparu lloches drafod achosion o’r fath â’r tîm tai yn eu hawdurdod lleol.”

Yn ogystal, cyhoeddodd ganllaw ar gyfer gwasanaethau i gyflawnwyr. Dywed y canllawiau hynny:

“Os ystyrir ei bod yn angenrheidiol i wario cyllid mewn ffyrdd gwahanol, dylai’r gwasanaethau gysylltu â noddwyr cyn gynted ag y bo modd er mwyn sicrhau cytundeb ffurfiol. Os bydd angen cyllid ychwanegol, dylai’r gwasanaethau rhoi dadl glir dros hynny. Ni ellir gwarantu y bydd unrhyw gyllid ychwanegol ar gael.”

Gellir defnyddio arfer da rhyngwladol yn lleol

Mae’r Cenhedloedd Unedig yn argymell y dylai Llywodraethau gymryd y camau a ganlyn:

  • integreiddio eu hymdrechion i atal trais yn erbyn menywod a’u gwasanaethau yn y maes hwn i mewn i’w cynlluniau ar gyfer ymateb i COVID-19;
  • dynodi llochesi trais domestig fel gwasanaethau hanfodol a chynyddu’r adnoddau a ddarperir iddyn nhw, ac i grwpiau cymdeithas sifil sydd ar reng flaen yr ymateb;
  • ehangu capasiti llochesi i ddioddefwyr trais drwy ail-bwrpasu lleoliadau eraill, fel gwestai gwag, neu sefydliadau addysg, gan ddiwallu anghenion cwarantîn a chan integreiddio ystyriaethau hygyrchedd i bawb;
  • dynodi lleoliadau diogel i fenywod lle gallant adrodd ar achosion o gamdriniaeth yn ddiarwybod i gyflawnwyr, er enghraifft mewn siopau groser neu fferyllfeydd;
  • symud gwasanaethau ar-lein;
  • ehangu ymgyrchoedd eiriolaeth ac ymwybyddiaeth, gan gynnwys targedu dynion gartref.

Dywed Sefydliad Iechyd y Byd: “Governments need to recognise the greater public health risk of women and girls to violence. The health sector, despite being stretched, can take some steps to mitigate the harms caused by violence, including providing psychological [..]  support and facilitating access to other support services”.

Mae’n gyfreithiol i berson adael ei gartref yn ystod y cyfnod o gyfyngiadau symud er mwyn dianc rhag camdriniaeth neu er mwyn cael cymorth

O dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020, mae’n drosedd i berson adael y man lle y mae’n byw heb ‘esgus rhesymol’. 

Fodd bynnag, mae’n amlwg bod ‘esgus rhesymol’ yn cynnwys gadael y tŷ er mwyn osgoi anaf, salwch neu risg o niwed, neu er mwyn cael mynediad at wasanaethau cymorth ym maes cam-drin domestig.

Mae llinell gymorth Byw Heb Ofn yn gallu darparu cymorth a chyngor ar gyfer:

  • unrhyw un sy’n dioddef cam-drin domestig;
  • pobl sy’n adnabod rhywun sydd angen cymorth;
  • ymarferwyr sydd am gael cyngor proffesiynol.

Mae pob sgwrs yn gyfrinachol ac yn cael eu cynnal â staff sy’n brofiadol iawn ac wedi’u hyfforddi’n llawn. Mae’r llinell gymorth ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos:


Erthygl gan Hannah Johnson, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.

Show Buttons
Hide Buttons
%d bloggers like this: