Coronafeirws: tlodi

Cyhoeddwyd 07/05/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae'r pandemig yn cael effaith anghyfartal ar bobl sy'n byw mewn tlodi. Dangosir hyn trwy anghydraddoldebau iechyd, cyflogaeth, gwariant ac addysg.

Mae bron i chwarter o bobl Cymru yn byw mewn tlodi. Mae pobl o rai grwpiau ethnig, plant, pobl anabl, gofalwyr, y rhai sy'n byw mewn tai rhent preifat neu'n gweithio mewn rhai sectorau i gyd yn fwy tebygol o brofi tlodi. Mae 44 % o rieni sengl yng Nghymru yn byw mewn tlodi.

Mae'r erthygl hon yn trafod effaith y pandemig ar bobl ar incwm isel yng Nghymru. Mae ein herthygl flaenorol yn egluro gwahanol ffyrdd o fesur tlodi. Rydym hefyd wedi cyhoeddi erthygl ynghylch y materion cydraddoldeb sy’n dod i’r amlwg mewn perthynas â’r pandemig.

Gallwch ddod o hyd i ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig Cymru yn yr erthygl hon

Gallai anghydraddoldebau iechyd sydd eisoes yn bodoli fod yn arwain at gyfradd marwolaethau uwch o ganlyniad i’r coronafeirws.

Mae cyfraddau marwolaethau o ganlyniad i’r coronafeirws yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru bron i ddwywaith mor uchel â’r rhai yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.

Cyfraddau marwolaethau wedi'u safoni yn ôl oedran, pob marwolaeth a marwolaeth sy'n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19), Mynegai Amddifadedd Lluosog, Cymru, marwolaethau rhwng 1 Mawrth a 17 Ebrill 2020


Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS)

Fel yr amlinellwyd yn ein herthygl flaenorol, mae poblogaeth Cymru yn fwy agored i risgiau’r coronafeirws oherwydd ei demograffeg.

Mae pobl sy'n byw mewn ardaloedd tlotach hefyd yn fwy tebygol o fod â chyflyrau iechyd sy'n eu rhoi mewn mwy o berygl o gael cymhlethdodau o ganlyniad i’r coronafeirws:

  • mae canser yr ysgyfaint a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) gryn dipyn yn fwy cyffredin yn y cymunedau mwyaf difreintiedig, oherwydd eu cysylltiad ag ysmygu. Mae pobl yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn fwy tebygol o ysmygu;
  • Mae'r bobl sy'n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru ddwywaith yn fwy tebygol o gael diabetes na’r rhai yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig;
  • mae pobl o dan 75 oed mewn ardaloedd difreintiedig dros ddwywaith yn fwy tebygol o farw o glefyd cardiofasgwlaidd na'r rhai yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig;
  • mae 29% o’r bobl yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn ordew, o'i gymharu ag 16% o bobl yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig, a
  • mae gwrywod yn ardaloedd lleiaf difreintiedig Cymru yn byw 9 mlynedd yn hirach na'r rhai yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. I fenywod, y bwlch yw 7.4 mlynedd.

Mae rhai wedi galw i gyllid iechyd gael ei flaenoriaethu ar gyfer ardaloedd tlotach o ganlyniad i'r anghydraddoldebau hyn.

Mae gweithwyr ar gyflog is yn fwy tebygol o weithio mewn sectorau nad ydynt yn weithredol ar hyn o bryd, ac yn llai tebygol o weithio gartref.

Mae dadansoddiad gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol (IFS) yn dangos bod pobl ar gyflog isel saith gwaith yn fwy tebygol na phobl ar gyflog uchel o weithio mewn sector nad yw’n weithredol ar hyn o bryd, fel manwerthu cynhyrchion nad ydynt yn fwyd, lletygarwch a hamdden.

Mae Sefydliad Bevan yn amcangyfrif bod 211,500 o bobl yng Nghymru yn cael eu cyflogi yn y sectorau hyn, sef 16% o’r gyflogaeth.

Roedd pobl sy'n gweithio mewn sectorau fel lletya ac arlwyo neu fanwerthu eisoes yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi.

Fel y nodwyd yn ein herthygl flaenorol, incwm pobl ifanc sy’n debygol o gael ei effeithio fwyaf, gan eu bod yn fwy tebygol o weithio mewn sectorau sydd wedi cau, ac mae cyfraddau llawer o fudd-daliadau yn is i bobl o dan 25 oed.

Canfu ymchwil gan Brifysgolion Caergrawnt, Rhydychen a Zurich fod gweithwyr yn y DU a enillodd lai na £20,000 y llynedd yn gallu gwneud 30% o'r tasgau yn eu prif swydd gartref, o'i gymharu â 55% ar gyfer y rhai sy'n ennill mwy na £40,000.

Mae hyn hefyd wedi’i adlewyrchu yn y data arolwg a gasglwyd ganddynt ar 25 Mawrth. Dangosodd y data fod 33% o'r gweithwyr a enillodd lai nag £20,000 y llynedd wedi gweithio mwy o'u cartref yn ystod yr wythnos flaenorol, o'i gymharu â 72% o'r rhai sy'n ennill mwy na £40,000.

Efallai fod pobl ar incwm isel yn cwympo rhwng y bylchau mewn cynlluniau cymorth incwm.

Mae Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod Coronafeirws Llywodraeth y DU yn caniatáu i gyflogwyr roi gweithwyr ar ffyrlo wrth barhau i'w talu ar gyfradd is yn lle eu diswyddo.

Fodd bynnag, nid yw’r cynllun yn talu cyflogau pobl sydd wedi cael gostyngiad mewn oriau gwaith a/neu gyflog, neu’r bobl sydd eisoes wedi colli eu swydd (er y gall cyflogwyr ddewis eu hail-gyflogi a'u rhoi ar ffyrlo).

Mae Ymchwil gan Gyngor ar Bopeth yn dangos:

  • Mae tua 250,000 o bobl yng Nghymru (17% o gyfanswm y gweithlu) eisoes wedi gweld gostyngiad yn eu horiau gwaith, wedi cael eu diswyddo, neu wedi colli eu swydd am eu bod wedi’i dileu;
  • Mae pedwar o bob 10 (42%) o bobl wedi colli incwm eu cartref oherwydd yr argyfwng hwn, gyda bron i un o bob 14 (7%) yn colli 80% neu fwy o incwm eu cartref, ac
  • Mae un o bob pedwar o bobl (25%) wedi gwneud cais neu'n disgwyl gwneud cais am fudd-daliadau o ganlyniad i'r achosion o coronafeirws.

Cyflogwyr sy'n gyfrifol am y penderfyniad i fanteisio ar y Cynllun Cadw Swyddi. Mae Cyngor ar Bopeth wedi awgrymu bod rhai cyflogwyr yn dewis peidio â defnyddio’r cynllun. Mae'n galw ar Lywodraeth y DU i roi’r ‘hawl’ weithwyr gael eu rhoi ar ffyrlo yn lle. Mae hefyd yn galw am gymhellion neu rwymedigaethau i gyflogwyr ddefnyddio'r cynllun.

Gallai cwymp mewn incwm arwain at risgiau eraill

Gallai gostyngiadau mewn incwm hefyd leihau'r opsiynau sydd ar gael i bobl mewn sefyllfaoedd ymosodol ddianc. Mae ymchwil i Sefydliad Joseph Rowntree yn dangos cysylltiad rhwng cam-drin domestig ac ‘incwm isel, straen economaidd a derbyn budd-daliadau’. Trafodir y materion hyn yn ein herthygl flaenorol ynghylch cam-drin domestig.

Mae cysylltiad hefyd rhwng tlodi a hunanladdiad. Mae ymchwil gan Samariaid Cymru yn 2018 yn dangos bod derbyniadau i’r ysbyty yn dilyn hunan-niweidio ddwywaith yn uwch yn y cymdogaethau mwyaf difreintiedig o gymharu â’r rhai mwyaf cyfoethog yng Nghymru.

Bu cynnydd mawr yn nifer y ceisiadau am fudd-daliadau lles

Fel yr amlinellwyd yn ein herthygl flaenorol, mae llawer o grwpiau o bobl na fyddant yn gallu manteisio ar yr amryw gynlluniau cymorth incwm, fel y rhai sydd wedi bod yn hunangyflogedig am lai na blwyddyn. Bydd y bobl hyn yn debygol o ddibynnu ar fudd-daliadau i wneud yn iawn am ostyngiadau mewn incwm.

Mae bron i ddwy filiwn o bobl yn y DU wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ers 16 Mawrth 2020.

Cyflwynodd Llywodraeth y DU ystod o newidiadau i'r system fudd-daliadau yn ystod cyfnod y coronafeirws (a amlinellir yn ein herthygl ar fudd-daliadau), gan gynnwys cynyddu Credyd Cynhwysol a Chredyd Treth Gweithio gan £20 yr wythnos. Mae rhai’n galw i'r cynnydd hwn gael ei ymestyn i fudd-daliadau eraill i bobl anabl a gofalwyr.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £11 miliwn ychwanegol ar gyfer y Gronfa Cymorth Dewisol yn 2020-21, a oedd yn cynnwys 11.2 miliwn yn wreiddiol. Mae’r Gronfa Cymorth Dewisol yn cynnig grantiau nad oes rhaid eu had-dalu i bobl ar incwm isel yng Nghymru y mae angen help arnynt gyda chostau hanfodol (fel bwyd, nwy, trydan, dillad a theithio brys) yn dilyn ‘achos o argyfwng’, neu bobl sy’n wynebu caledi ariannol eithafol am resymau sy’n cynnwys oedi o ran cael budd-daliadau.

Mae’r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant yn argymell y dylid cynyddu nifer y partneriaid sy’n atgyfeirio pobl i’r Gronfa a gwneud y broses o wneud cais yn haws. Gwnaed dros £500,000 o daliadau gan y Gronfa rhwng 18 Mawrth a 30 Ebrill, ond gall rhai o'r rhain fod yn gysylltiedig â llifogydd mis Chwefror hefyd.

Pobl yn poeni am filiau uwch a dyledion

Mae data gan Gyngor ar Bopeth yn dangos bod pobl yn poeni na fyddant yn gallu fforddio rhent na thalu eu biliau. Canfu fod tua chwe miliwn o bobl yn hwyr yn talu bil cartref oherwydd y coronafeirws.

Mae ystadegau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod cyfran y bobl sy'n ei chael hi'n anodd talu biliau wedi cynyddu ers yr wythnos flaenorol o 13% i 15%.

Mae ymgyrchwyr gwrthdlodi wedi tynnu sylw penodol at incwm isel gofalwyr, y rhai â thâl a di-dâl. Mae ymchwil gan Gofalwyr Cymru wedi canfod bod 77 y cant o ofalwyr di-dâl yn gorfod gwario mwy o arian yn ystod yr argyfwng

Tai

Rhoddodd Llywodraeth Cymru gyngor i denantiaid, sydd â hawl ar hyn o bryd i o leiaf dri mis o rybudd os yw eu landlord am eu troi allan. Cynyddodd Llywodraeth y DU gymorth tai drwy Gredyd Cynhwysol a’r Budd-dal Tai ‘fel y bydd y lwfans tai lleol yn talu o leiaf 30% o renti’r farchnad’ o fewn Ardal Marchnad Rhentu Eang. Bu galwadau gan undebau rhentwyr am gael cyfnodau di-rent yn ystod cyfnod y coronafeirws.

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cytuno â benthycwyr morgeisi y byddant yn cynnig tri mis o wyliau ad-dalu i aelwydydd sy’n cael anhawster ariannol oherwydd y pandemig. Mae’r trefniant hwn yn cynnwys morgeisi prynu i osod hefyd.

Mae Sefydliad Bevan wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ychwanegu at gyllid Llywodraeth y DU ar gyfer Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai, sy'n cael eu gweinyddu gan awdurdodau lleol.

Biliau a bwyd

Gan fod oedolion a phlant gartref am gyfnodau hirach yn ystod y dydd, mae biliau ynni wedi cynyddu. Mae pobl ar fesuryddion rhagdalu sy'n hunanynysu ac yn methu ag ychwanegu credyd yn cael eu cynghori i siarad â'u cyflenwyr.

Mae peth tystiolaeth bod pris rhai bwydydd y mae galw mawr amdanynt hefyd wedi cynyddu. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwarantu cyllid parhaus i blant barhau i dderbyn prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau'r haf. Mae Sefydliad Bevan yn dadlau y dylai’r gefnogaeth hon gael ei rhoi ar ffurf arian parod yn hytrach na thalebau.

Mewn adroddiad gan Ymddiriedolaeth Trussell nodwyd bod y galw am barseli bwyd brys wedi cynyddu 81% mewn banciau bwyd yn ei rhwydwaith yn ystod pythefnos olaf mis Mawrth, o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2019.

Dyledion

Mae Cyngor ar Bopeth wedi gwneud nifer o argymhellion i helpu pobl i ad-dalu dyledion sydd wedi cronni oherwydd y coronafeirws mewn ffordd gynaliadwy heb 'ymyl clogwyn', gan gynnwys:

  • Dileu ‘troi allan heb fai';
  • Rhoi’r gorau i fesurau gorfodi ar gyfer biliau treth y cyngor am gyfnod, a chyflwyno cyfnod tri mis o wyliau ad-dalu;
  • Peidio â datgysylltu pobl o gyflenwadau ynni a pheidio â chymryd camau gorfodi am gyfnod, a
  • Chyflwyno ffyrdd newydd, fforddiadwy o ad-dalu dyledion ar draws pob sector.

Gallai bylchau cyrhaeddiad addysgol rhwng y myfyrwyr tlotaf a’r cyfoethocaf ehangu

Fel yr amlinellwyd yn ein herthygl flaenorol, mae pryderon y gallai cau ysgolion ehangu'r bwlch cyrhaeddiad addysgol rhwng y plant lleiaf difreintiedig a mwyaf difreintiedig.

Mae 'cyswllt cryf' rhwng cyflawniad addysgol a lefel yr hawl i brydau ysgol am ddim mewn ysgolion.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnwys 'Y gallu i flaenoriaethu dysgwyr ar adegau allweddol, gan gynnwys y rheini o gefndiroedd difreintiedig' fel un o'i phum egwyddor ar gyfer cynllunio camau adfer ar gyfer addysg.

Ar 30 Ebrill, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg y bydd hyd at £3 miliwn ar gael i ddarparu gliniaduron a rhyngrwyd symudol ar gyfer disgyblion sydd wedi’u ‘hallgáu o’r byd digidol’.

Mae pryderon y gallai defnyddio rhagolygon graddau neu raddau a gyfrifir roi myfyrwyr tlotach dan anfantais.

Mae pryderon hefyd am yr effaith ar fyfyrwyr tlotach o symud cyrsiau prifysgol ar-lein. Dangosodd astudiaeth yn 2017 fod myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig yn 'perfformio'n waeth yn gyson mewn lleoliad ar-lein nag y maent mewn ystafelloedd dosbarth wyneb yn wyneb'. Ychwanegodd yr astudiaeth fod cymryd cyrsiau ar-lein yn cynyddu eu tebygolrwydd o roi’r gorau i astudio ac yn rhwystro eu cynnydd.

Gallai pobl ar incwm is yn ei chael hi'n anoddach cydymffurfio â mesurau cadw pellter cymdeithasol

Gallai pobl ar incwm isel ei chael hi’n anoddach arfer mesurau cadw pellter cymdeithasol os ydynt yn byw mewn tai llai a mwy gorlawn, neu heb erddi.

Yn 2011, roedd mwy nag 80,000 o aelwydydd yng Nghymru (6% o aelwydydd) yn byw mewn cartrefi â mwy na 1.5 o bobl fesul ystafell wely. Fel y nodwyd gan Sefydliad Bevan, mae nifer y bobl ag ystafell sbâr yn debygol o fod wedi gostwng oherwydd diwygiadau i system nawdd cymdeithasol y DU ers 2012. Mae rhentwyr cymdeithasol yn fwy tebygol o fod mewn tai gorlawn na rhentwyr preifat.

Pobl sy’n byw mewn hosteli i bobl ddigartref a llochesau menywod hefyd yn wynebu risg uwch gan fod llawer yn byw mewn ystafelloedd a rennir. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £10 miliwn i gartrefu pobl sy'n cysgu allan yn ystod cyfnod y coronafeirws, ond mae Cymorth i Ferched Cymru wedi beirniadu’r ffaith nad oes cyllid tebyg ar gyfer gwasanaethau cam-drin domestig.

Mae'r Cyngor Ffoaduriaid yn pryderu am letyau i geiswyr lloches yn enwedig (sy'n gyfrifoldeb Llywodraeth y DU), er bod yr hawl i droi allan wedi cael ei ddiddymu dros dro am dri mis.

Fel y nodwyd gan Sefydliad Bevan, mae 14% o aelwydydd yng Nghymru heb fynediad at gar a byddant yn wynebu risg uwch am eu bod yn gorfod dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus pan fydd gweithleoedd ac ysgolion yn ailagor.

Gallai cartrefi ar incwm is gael eu 'hallgáu’n ddigidol' yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud

Yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud, mae pobl wedi dod yn ddibynnol ar wasanaethau ar-lein ar gyfer gwaith, addysg, siopa, adloniant, bancio, ymgynghoriadau iechyd a llawer mwy.

Ond mae oddeutu 13% o aelwydydd yng Nghymru heb fynediad at y rhyngrwyd, ac nid yw 51% o bobl dros 75 oed yn defnyddio'r rhyngrwyd. Mae tystiolaeth i awgrymu bod y rhai ar incwm isel yn llai tebygol o fod â chysylltiad rhyngrwyd yn y cartref.

Canfu un o bwyllgorau’r Senedd yn 2017 fod tlodi ac anabledd gwledig yn ffactorau sy’n cyfrannu at unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol. Ond canfu hefyd fod technoleg ddigidol yn gallu cynnig anfanteision yn ogystal â manteision.

Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn casglu tystiolaeth ar hyn o bryd ynglŷn ag effaith y pandemig ar y materion sy’n codi o fewn ei gylch gwaith, gan gynnwys tlodi a chydraddoldeb.


Erthygl gan Hannah Johnson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.